Mae’n rhaid atal deddfwriaeth wrth-streicio “fygythiol” San Steffan, yn ôl Liz Saville Roberts, sy’n annog Llafur i gefnogi datganoli cyfraith cyflogaeth i Gymru er mwyn amddiffyn hawliau gweithwyr rhag “ymosodiadau di-baid o San Steffan”.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar y diwrnod pan fydd y Mesur Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Isaf), sy’n ceisio ffrwyno hawl gweithwyr i weithredu’n ddiwydiannol, gael ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Llun, Ionawr 16).

Dywed Liz Saville Roberts mai’r “ymosodiad awdurdodaidd” ar yr hawl i streicio yn unig sydd ei angen, gan fod Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn dymuno sylw oddi wrth yr “aflonyddwch dyddiol i wasanaethau cyhoeddus a achosir gan danariannu creulon o gyllidebau gan ei blaid ei hun”.

Ynghyd â’r SNP, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant sy’n gwrthod rhoi ail ddarlleniad i’r Mesur, gan ddweud ei bod yn bosibl ei bod yn torri Erthygl 11 ECHR ar ryddid ymgynnull a chymdeithasu, ac mae’n ymddangos ei bod yn anghydnaws â Safonau ILO (Sefydliad Llafur Rhyngwladol).

Mae Liz Saville Roberts yn annog y Blaid Lafur i gefnogi gwelliant Plaid Cymru a’r SNP.

‘Dewis olaf’

“Mewn ymgais i dynnu sylw oddi wrth yr aflonyddwch dyddiol i wasanaethau cyhoeddus a achosir gan danariannu creulon o gyllidebau gan ei blaid ei hun, mae Rishi Sunak wedi lansio’r ymosodiad awdurdodaidd diweddaraf hwn ar yr hawl sylfaenol i streicio,” meddai Liz Saville Roberts.

“Does neb eisiau gweld streiciau’n digwydd, yn enwedig yr holl weithwyr sy’n colli diwrnod o gyflog.

“Mae’r streiciau gan nyrsys a gweithwyr ambiwlans yn ddewis olaf gan staff sydd wedi gorweithio ac sy’n poeni bod diogelwch cleifion yn dioddef oherwydd cynnydd yn y galw a phrinder staff.

“Pe bai Llywodraeth San Steffan wedi treulio cymaint o amser yn poeni am nyrsys yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd ag y maen nhw am nyrsys yn sefyll ar linellau piced, ni fyddai angen y ddeddfwriaeth fygythiol hon.

“Mae’r Blaid Lafur yn gwneud y synau cywir, ond mae’n parhau i wrthwynebu datganoli cyfraith cyflogaeth.

“Dyma’r unig ffordd i roi’r pŵer i Gymru amddiffyn hawliau gweithwyr rhag ymosodiadau di-baid San Steffan.

“Rwy’n annog Llafur i gefnogi gwelliant Plaid Cymru a’r SNP heddiw.”