Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi cyllid o £2.3m ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a lles mewn prifysgolion.

Bydd yr arian yn helpu i ddelio ag effaith yr argyfwng costau byw sy’n wynebu dysgwyr a myfyrwyr, ac yn hyrwyddo gwasanaethau cyngor ariannol mewn addysg uwch.

Bydd hefyd yn helpu i gefnogi myfyrwyr sy’n wynebu pwysau ariannol drwy ehangu’r cyllid caledi, sef cronfeydd arian sydd ar gael i fyfyrwyr mewn prifysgolion.

Mae’r cyllid wedi’i roi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), a’i nod yw helpu myfyrwyr prifysgol a’r rhai sy’n symud i mewn i addysg uwch.

Bydd y Cyngor Cyllido yn gofyn i brifysgolion a cholegau weithio gydag undebau myfyrwyr i wneud yn siŵr bod y cyllid yn cael yr effaith orau bosibl ar fywydau myfyrwyr.

Cydnabod effaith yr argyfwng costau byw

“Mae’r cam o’r coleg neu’r ysgol i’r brifysgol yn gallu bod yn gyfnod heriol, yn enwedig os yw rhywun yn byw oddi cartref am y tro cyntaf,” meddai Jeremy Miles.

“Dw i’n falch dros ben o gael cyhoeddi cyllid ychwanegol i wneud yn siŵr bod ein prifysgolion yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth gefnogi myfyrwyr.”

Yn ôl Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, “mae cynnig gwasanaethau iechyd meddwl a lles yn ffordd hollbwysig o gefnogi myfyrwyr, yn enwedig wrth iddyn nhw wynebu newidiadau mawr fel gadael cartref am y tro cyntaf”.

“Dw i’n falch ein bod ni wedi gallu buddsoddi yn y gefnogaeth yma ac ehangu’r cyllid caledi er mwyn helpu i ysgafnhau’r pwysau ariannol sydd ar fyfyrwyr hefyd,” meddai.

Dywed Orla Tarn, Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, fod “y buddsoddiad hwn yn cydnabod yr effaith sylweddol mae’r argyfwng costau byw yn ei chael ar iechyd meddwl myfyrwyr”.

“Mae’r ffocws ar roi hwb i wasanaethau cymorth ariannol a sicrhau bod arian caledi ychwanegol ar gael i’w groesawu ac yn angenrheidiol o ystyried y straen sylweddol ar bocedi myfyrwyr prifysgol ar hyn o bryd,” meddai.

“Bydd parhau i weithio mewn partneriaeth ag undebau myfyrwyr, sy’n rhoi cefnogaeth hanfodol i’w myfyrwyr yn ystod yr argyfwng hwn, yn helpu i sicrhau bod y cyllid hwn yn cael yr effaith fwyaf bosibl.”