Mae Conradh na Gaeilge, mudiad sy’n ymgyrchu tros y Wyddeleg, wedi gwobrwyo cymunedau amrywiol ddaeth ynghyd yn Nulyn dros y penwythnos i ddathlu’r iaith.

Ymhlith y cymunedau gafodd eu cynrychioli yn Céad Míle Fáilte (100,000 croeso) roedd y cymunedau Igo, Arabaidd ac Wcreinaidd, a chawson nhw flas ar wersi Gwyddeleg dros y misoedd diwethaf hefyd.

Cafodd y fenter ei sefydlu wrth i niferoedd cynyddol o fewnfudwyr i Iwerddon ddangos diddordeb yn yr iaith a’r diwylliant, a’i nod yw hyrwyddo’r iaith i’r bobol hynny.

Yn ogystal â gwersi, mae ysgoloriaeth wedi’i sefydlu i bobol gael mynychu cyrsiau yn y Gaeltacht (cadarnleoedd yr iaith Wyddeleg), mae cyfres o weithdai wedi’u cynnal i edrych ar derminoleg addas i’w defnyddio gyda chymunedau newydd o siaradwyr, a llyfryn wedi’i gynhyrchu i godi ymwybyddiaeth o’r iaith.

‘Dylai pawb gael y cyfle i fwynhau an Ghaeilge

“Ro’n i wrth fy modd o gael bod yn rhan o’r prosiect pwysig hwn,” meddai Paula Melvin, llywydd Conradh na Gaeilge.

“Mae’r Iwerddon gyfoes yn brolio cymdeithas amrywiol, amlddiwylliannol, amlieithog, ac mae’r iaith Wyddeleg yn ased diwylliannol gwerthfawr y gallwn ei rannu â phawb.

“Dylai pawb gael y cyfle i fwynhau an Ghaeilge (yn yr iaith Wyddeleg).

“Mae gan yr iaith Wyddeleg rôl bwysig wrth helpu ein cymunedau newydd i integreiddio yn y gymdeithas Wyddelig.

“Mae Conradh na Gaeilge yn anelu i gefnogi cymunedau lleol wrth ddatblygu delwedd bositif o’r iaith i bawb sy’n byw yma.

“Mae’r fenter hon yn ganolog i’r nod yma, a hoffwn ddiolch yn arbennig i Foras na Gaeilge am ariannu’r ymgyrch yn 2022.”

Deall pwysigrwydd yr iaith

“Mae’r gymuned Syriaidd dw i’n gweithio â hi yn mwynhau dysgu’r Wyddeleg ac am ddiwylliant Gwyddelig yn fawr iawn,” meddai Hafi Saad, hwylusydd gyda’r gymuned Syriaidd yn Downpatrick, Sir Down.

“Iwerddon yw eu cartref nawr, ac maen nhw wrth eu boddau o gael bod yn rhan o’r gymuned yma a phrofi pob agwedd ar y diwylliant yma.

“Mae’r prosiect Céad Míle Fáilte wedi eu helpu nhw i ddeall sut mae’r iaith Wyddeleg yn ganolog i ddiwylliant a hunaniaeth y Gwyddelod.

“Dw i’n gwybod fy mod i’n siarad ar ran yr holl gymunedau amrywiol yma heddiw wrth ddiolch i Conradh na Gaeilge am greu’r gofod hwn i ni i gyd werthfawrogi a mwynhau’r iaith Wyddeleg.”