Mae agweddau gwleidyddol yn newid yn Wrecsam, yn ôl ymgeisydd nesaf Plaid Cymru yn yr etholaeth ar gyfer San Steffan.
Cafodd Becca Martin, sy’n gynghorydd dros ward Gwaunyterfyn a Maes-y-dre ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ei dewis yr wythnos ddiwethaf.
6.4% o’r bleidlais enillodd Plaid Cymru yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf yn 2019, a Sarah Atherton o’r Blaid Geidwadol sy’n cynrychioli’r etholaeth ar hyn o bryd.
Cyn hynny, roedd y Blaid Lafur wedi dod i’r brig yno ym mhob Etholiad Cyffredinol ers 1935.
Ond yn ôl Becca Martin, mae newid ar droed ac mae pobol yn dechrau gweld bod Plaid Cymru yn opsiwn.
“Yn etholiad diwethaf y Senedd, fe wnaeth ein pleidlais ddyblu. Yn yr etholiadau lleol diwethaf, fe wnaethon ni gipio tair sedd ac ennill naw sedd [i gyd],” meddai’r cynghorydd 35 oed wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl bod agweddau yn newid yn Wrecsam, ac rydyn ni yn cael dipyn mwy o gefnogaeth nawr. Mae pobol yn bendant yn gweld ni fel opsiwn.”
Mae newid agwedd tuag at Wrecsam hefyd ers i sêr Hollywood brynu’r clwb pêl-droed ac ers i’r dref droi’n ddinas y llynedd, meddai.
“Mae’r clwb pêl-droed yn sicr wedi rhoi Wrecsam ar y map.
“Mae perchnogion busnes yn dweud wrthym ni eu bod nhw’n cael pobol yn dod i Wrecsam oherwydd bod y ddinas wedi bod ar y newyddion ac oherwydd y rhaglen efo Rob [McElhenney] a Ryan [Reynolds].
“Mae yna bobol yn dod yr holl ffordd o America i weld Wrecsam oherwydd eu bod nhw wedi gweld y ddinas ar y rhaglen, felly mae’n rhoi golau arnom ni am y rhesymau cywir a dw i’n meddwl bod pobol yn gweld o’r diwedd sut le ydy Wrecsam a sut gymuned sydd yma.”
Blaenoriaethu’r Gwasanaeth Iechyd
Prif flaenoriaeth Becca Martin, sy’n gweithio yn siop emwaith y teulu yn Wrecsam ers 17 mlynedd, fel ymgeisydd seneddol fydd y system iechyd.
“Mae yna broblemau anferth ynghlwm â hynny ar y funud yn enwedig yn Wrecsam ac ein hysbyty lleol – Ysbyty Maelor Wrecsam,” meddai’r ymgeisydd sy’n gynghorydd ers mis Mawrth 2021.
“Mae gennym ni broblemau mawr efo ambiwlansys yn gorfod aros tu allan, does yna ddim gwelyau, pobol yn gorfod aros yn yr adran frys am oriau.
“Mae angen gwneud newidiadau sylfaenol er mwyn gwneud pethau’n llyfnach a sicrhau bod y system yn gweithio’n well i’n poblogaeth.
“Dw i’n meddwl bod rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth ar y funud.”
Er bod gwleidyddiaeth wedi bod o ddiddordeb iddi erioed, a’r awydd i greu newid, dwysaodd y diddordeb wedi iddi gael ei mab.
“Dw i wastad wedi bod yn ymwneud â’r gwaith tu ôl i’r llen mewn gwleidyddiaeth, yn helpu i gynnal ymgyrchoedd ac ati,” meddai.
“Cefais i hogyn bach bedair blynedd yn ôl, a fo sy’n fy ngyrru i. Fo sy’n gwthio fi ymlaen. Os nad ydw i’n newid pethau i fi, yna mae’n rhaid i mi newid pethau ar ei gyfer o.
“Dw i ddim eisiau iddo fo dyfu fyny yn y byd hwn rydyn ni ynddo ar y funud, dw i eisiau iddo fod yn well iddo fo a’i genhedlaeth.
“Dw i wastad wedi gweld pethau dw i’n anhapus â nhw a phethau fyswn i’n hoffi newid, ond dyma sydd wedi fy ngwthio ymlaen – cael mab a gweld o a chenhedlaeth y dyfodol.
“Os ydyn ni’n gadael i bethau barhau fel maen nhw, pa fath o fywyd fydd ganddyn nhw? Bydd rhaid iddyn nhw dalu am bethau sylfaenol fel gofal iechyd.
“Dydw i ddim eisiau hynny ar gyfer y cenedlaethau nesaf.”