Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r gohebydd gwleidyddol Clive Betts, sydd wedi marw.

Yn enedigol o Southampton, astudiodd e Ddaearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn ymuno â’r South Wales Echo yn 1965 a symud wedyn i weithio gyda’r Western Mail.

Daeth yn ohebydd materion Cymreig gyda’r Western Mail yn 1982, ac yn fwyaf diweddar bu’n Olygydd y Cynulliad.

Dysgodd e Gymraeg, ac fe ysgrifennodd sawl llyfr ar bob agwedd ar fywyd a diwylliant Cymru.

Yn ôl y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, fe enillodd enw iddo’i hun fel “sylwebydd treiddgar, os dadleuol weithiau, ar faterion gwleidyddol a diwylliannol”.

Ar ôl dysgu Cymraeg, magodd ddiddordeb yng ngwaith cyrff cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, ac roedd ei gyfrol Culture in Crisis ymhlith y cyfrolau cyntaf i drafod y berthynas rhwng disgyblaeth ieithyddiaeth gymdeithasol a thrafodaeth o’r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus.

Cyhoeddodd sawl cyfrol ar ymweliadau’r Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd, gan gynnwys A Oedd Heddwch?, ac ysgrif ar gyflwr pleidiau gwleidyddol Cymru ddechrau’r 1990au.

Teyrngedau

Yn ôl Nick Speed, un o’i gydweithwyr yn y Western Mail, “cadwodd Clive y fflam ynghyn wedi colli’r [bleidlais] datganoli yn 1979 a phan gawson ni ein Cynulliad Cenedlaethol o’r diwedd, roedd Clive eisiau sylw print oedd yn gweddu i senedd”.

Dywed Hefin David, Aelod Llafur o’r Senedd dros Gaerffili, iddo gael ei fagu’n darllen gwaith Clive Betts, a’i fod e’n “newyddiadurwr dawnus”.

“Mae’n ddrwg iawn gen i glywed fod Clive Betts wedi ein gadael,” meddai Dafydd Trystan.

“Bu’n gohebu’n ddiwyd (ac yn heriol) am Gymru mewn cyfnod pan oedd fflam datganoli yn egwan (ar y gorau) ond mi ddaliodd ati, ac mi welodd maes o law dyfodiad Senedd Cymru. Coffa da amdano.”

Yn ôl ei ffrind agos, y gwleidydd a sylwebydd gwleidyddol Gwynoro Jones, “am ddau ddegawd, fe oedd y newyddiadurwr gwleidyddol amlycaf yng Nghymru”, ac mae’n dweud ei fod yn “dreiddgar a thrylwyr – ond hefyd yn ddiofn ac yn deg ei sylwebaeth”.

“Roedd Clive yn eithriad prin yn y 70au,” meddai’r newyddiadurwr Andy Bell.

“Rhywun a welodd Cymru fel cenedl, uned.

“Fe wnaeth e osod safon i’r sawl a ddaeth ar ei ôl.”