Dona Lewis fydd Prif Weithredwr newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan olynu Efa Gruffudd Jones.

Mae Dona Lewis yn gweithio fel Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan ar hyn o bryd.

Bydd yn ymgymryd â’i rôl newydd ym mis Ionawr, pan fydd Efa Gruffudd Jones yn dechrau fel Comisiynydd y Gymraeg.

Cafodd Dona Lewis ei magu ger Abergele, ac astudiodd Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Treuliodd 16 mlynedd yn gweithio i’r Mudiad Meithrin, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Gweithredol, Dirprwy Brif Weithredwr a Phrif Weithredwr Dros Dro.

Roedd hi ymhlith aelodau staff cyntaf y Ganolfan Dysgu Cymraeg pan gafodd y corff ei sefydlu yn 2016, a bu’n gyfrifol am gyflwyno’r gwasanaethau corfforaethol.

Ers hynny, mae wedi arwain ar nifer o raglenni arbennig, gan gynnwys ‘Cymraeg Gwaith’, cynllun i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle, a ‘Cymraeg yn y Cartref’, sy’n rhoi cyfleoedd i rieni a gofalwyr ddysgu er mwyn mwynhau’r iaith gyda’u plant.

“Mae yna fwrlwm yn y sector Dysgu Cymraeg, gydag arwyddion cadarnhaol bod y galw am gyrsiau yn cynyddu, a dw i’n edrych ymlaen at arwain y Ganolfan trwy’r cyfnod cyffrous nesaf,” meddai.

‘Cyfoeth o sgiliau’

Wrth ei llongyfarch, dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, bod y Gymraeg wedi bod “wrth galon ei gyrfa”.

“Mae ganddi gyfoeth o sgiliau a phrofiad perthnasol yn sgil ei gwaith yn y sector Dysgu Cymraeg,” meddai’r Gweinidog.

“Mae’r Ganolfan Genedlaethol yn hollbwysig i’n hymdrechion i gynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg a’r niferoedd sy’n defnyddio’r iaith yn eu bywydau pob dydd.

“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Dona wrth i ni wireddu’r amcanion hynny.”

Dona eisiau dysgu Cymraeg i sêr a chefnogwyr Cymru

Cadi Dafydd

“Mae gennym ni arlwy newydd i gefnogwyr pêl-droed o gwmpas Cwpan y Byd, mae gennym ni adnoddau wedi’u teilwra i bêl-droed”

Penodi Efa Gruffudd Jones yn Gomisiynydd y Gymraeg

“Dw i’n edrych ymlaen at wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod y Gymraeg, ein trysor cenedlaethol, yn perthyn i bob un ohonon ni”