Mae angen “newid prosesau” Plaid Cymru “o’r llawr i fyny”, yn ôl Bethan Sayed, cyn-Aelod o’r Senedd.
Daw hyn yn sgil cyhuddiadau o “ddiwylliant gwenwynig” o fewn y blaid.
Mae’r arweinydd Adam Price wedi penodi Nerys Evans, cyn-aelod o’r Senedd, i adolygu proses gwynion y blaid.
Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru eisoes yn gweithio gyda chwmni ymgynghori adnoddau dynol annibynnol i ymchwilio i “honiadau o gamymddwyn”.
“Wrth gwrs ei fod e’n destun gofid, fel y bydde fe i unrhyw blaid pan mae yna broblemau gydag aelodau yn digwydd a bod rhaid cynnal ymchwiliadau ac yna newid strwythurau o ganlyniad i hynny,” meddai Bethan Sayed wrth Golwg.
“Dw i’n cofio pan yr oedd yna honiadau o rywiaeth yn y blaid, fe gafwyd ymchwiliad mewn i sut oedd menywod yn y blaid yn teimlo ac fe wnes i gymryd rhan yn hwnna, er ’mod i ddim yn sicr beth oedd ei gasgliadau.
“Dw i’n credu bod angen newid prosesau o’r llawr i fyny yn fewnol yn y blaid er mwyn adfer ffydd pobol yn y strwythurau yma.
“Mae angen i’r strwythurau fod yn gywir cyn bod y blaid yn llwyddiannus eto, a’r un peth y byddwn i’n dweud sydd angen ei newid yw rhoi mwy o bŵer i’r arweinydd i gael mwy o fewnbwn.
“Oherwydd dw i wedi gweld cyfweliadau – nid yn unig gydag Adam, ond hefyd gyda Leanne cynt – yn dweud nad ydyn nhw’n gallu trafod pethau oherwydd nad ydyn nhw’n rhan o’r prosesau yma ac mai nad y nhw sy’n gyfrifol.
“Wel, i fi, mae’n rhaid bod yna ryw fath o gyfrifoldeb gan yr arweinydd, neu beth yw pwrpas arweinydd?
“Achos ddylen nhw ddim jyst bod yn arweinydd o ran polisi, mi ddylen nhw fod yn arweinydd o ran sut mae’r blaid yn gweithredu.
“Dyna yw’r prif beth i mi, mae’n rhaid i ni fod yn iachus o fewn plaid ein hun er mwyn i ni fod yn ymddangosiedig iachus i’r cyhoedd.
“Nid dim ond ni sy’n cael y problemau yma, ond dyw hynny ddim yn esgusodi bod angen newid a’r newid yna yn gloi.”