Mae yna dri gwleidydd yn y ras i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

Dywed mai un o blith Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, yr Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles, a’r Ysgrifenydd Iechyd Eluned Morgan yw’r tri sy’n fwyaf tebygol o olynu Mark Drakeford.

Wrth siarad ag Al Jazeera yn Qatar fis diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog presennol ei bod hi’n “bryd i ni ethol rhywun sy’n edrych ymlaen at y 25 mlynedd nesaf”.

Ychwanegodd mai ei fwriad yw aros yn y rôl tan ddiwedd y flwyddyn nesaf.

Yn y cylchgrawn Barn, awgrymodd Richard Wyn Jones mai’r dyddiad mwyaf tebygol ar gyfer ei ymadawiad yw diwedd 2024, gan roi 18 mis i’w olynydd baratoi ar gyfer etholiad nesaf y Senedd.

Dywed Richard Wyn Jones mai Vaughan Gething a Jeremy Miles yw’r ddau geffyl blaen, ond y byddai’n rhaid “cymryd Eluned Morgan o ddifrif” pe bai hi’n sefyll.

Vaughan Gething fyddai’n debygol o ennyn cefnogaeth yr undebau llafur a Phlaid Lafur y Deyrnas Unedig, meddai, tra byddai Jeremy Miles yn cynrychioli parhad o’r math o wleidyddiaeth sydd wedi gwahanu Llafur Cymru a’r Deyrnas Unedig o dan arweinyddiaeth Rhodri Morgan, Carwyn Jones a Mark Drakeford.

“O ran sylwedd, mae nifer o’r rhai sydd yn credu bod llwyddiant y Blaid Lafur Gymreig ers etholiad 1999 wedi deillio o barodrwydd Rhodri Morgan, Carwyn Jones a Mark Drakeford i fwrw ar drywydd Cymreig eu hunain hefyd o’r farn mai Miles sydd fwyaf tebygol o barhau yn yr un traddodiad,” meddai Richard Wyn Jones.

“Os yw’n wir mai Vaughan Gething fydd ymgeisydd y sefydliad Llafur, bydd yn rhaid i’r Aelod dros Gastell-nedd geisio ysbrydoli’r aelodaeth ar lawr gwlad trwy gyflwyno gweledigaeth amgen o’r math o genedl y dylai Llafur Cymru fod yn ceisio ei hadeiladu.”

‘Dau ymgeisydd clir’

Mae’r sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis yn cytuno mai naill ai Vaughan Gething neu Jeremy Miles sy’n fwyaf tebygol o gymryd yr awenau pan fydd Mark Drakeford yn camu o’r neilltu.

“Dw i’n meddwl fod yna ddau ymgeisydd clir iawn, sef Vaughan Gething a Jeremy Miles,” meddai wrth golwg360.

“Os ydych chi’n edrych ar le mae’r cryfder y tu mewn i’r blaid, Jeremy Miles a Vaughan Gething sydd â’r gefnogaeth pan mae’n dod at yr aelodaeth a’r undebau a’r Aelodau o’r Senedd hefyd.

“Dyna fydd y cwestiwn mawr flwyddyn nesaf, dw i’n credu, a dyna fydd y ffocws.

“Er dw i ddim yn disgwyl i Mark Drakeford sefyll lawr y flwyddyn nesaf i fod yn onest, oherwydd dw i’n credu, os ydych chi’n edrych dros y misoedd diwethaf, mae lot o’r pethau roedd Mark Drakeford mo’yn gwneud wedi cael eu heffeithio gan y darlun economaidd.

“Fe welsoch chi hynny gyda’r ‘gyllideb amseroedd anodd’, neu beth bynnag oedd e, yr wythnos diwethaf.

“Dw i ddim yn meddwl mai dyna oedd Mark Drakeford mo’yn i ddigwydd, roedd e eisiau adeiladu Cymru newydd i ryw raddau cyn gadael, ac mae hynny yn mynd i fod yn anodd iawn ac fe fydd e angen ychydig mwy o amser dw i’n credu.

“Felly dw i’n credu yn sicr mai’r flwyddyn ar ôl nesaf fydd hi, oni bai bod rhywun fel Jeremy Miles, Vaughan Gething, neu efallai Keir Starmer yn dylanwadu gan ddweud bod angen rhywun yn y swydd erbyn yr etholiad cyffredinol yn 2024.

“Ond Miles a Gething yw’r ddau fydd yn y ras i fi.”