Mae Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi croesawu’r penderfyniad sydd wedi’i gyhoeddi i ailagor cwest llawn i drychineb glofaol y Gleision.

Daw hyn ar ôl ymgyrch hir, gyda chefnogaeth Sioned Williams, gan y rhai gafodd eu heffeithio’n uniongyrchol gan y drasiedi, pan fu farw pedwar dyn – Charles Breslin, David Powell, Philip Hill, a Garry Jenkins – yn 2011.

Fis Hydref eleni, roedd protest yng Nghilybebyll, lle ymunodd Sioned Williams â theuluoedd y dioddefwyr i annog Crwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i ymateb i’r dystiolaeth gafodd ei chyflwyno iddo fis Ebrill.

Roedd y dystiolaeth honno wedi awgrymu y gallai blynyddoedd o fethiannau honedig gan y cyrff rheoleiddio fod wedi arwain at weithredwyr yn gweithio glo yn anghyfreithlon ac at fethiant i’w gofnodi yn y cynlluniau mwyngloddio.

Ymunodd Sioned Williams â’r teuluoedd heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 21) i glywed y cyhoeddiad tu allan i Lys y Crwner.

“Er gwaethaf yr amser hurt y mae wedi’i gymryd i gyrraedd y pwynt hwn, rwy’n croesawu penderfyniad Crwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot heddiw i gynnal cwest llawn i drychineb glofa Gleision,” meddai.

“Ers lawer rhy hir, mae’r teuluoedd wedi cael eu gwthio i’r cyrion, ac heb dderbyn atebion i’w cwestiynau.

“Er na fydd penderfyniad heddiw yn dod â’r rhai a gollodd eu bywydau yn drasig yn 2011 yn ôl, rwy’n gobeithio y bydd cwest llawn yn rhoi’r atebion hynny.

“Ym mis Ebrill, ymunais â’r brotest a gynhaliwyd gan deuluoedd y dioddefwyr y tu allan i Neuadd y Ddinas yn Abertawe pan gyflwynwyd yr achos am gwest llawn mewn dogfen i’r Crwner, ac ym mis Hydref ymunais â nhw mewn protest yng Nghilybebyll i annog y Crwner i ymateb i’r dystiolaeth honno.

“Mae’r penderfyniad heddiw i ailagor cwest yn rhoi rhywfaint o obaith y bydd dymuniadau’r teuluoedd yn cael eu clywed o’r diwedd.

“Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r trychineb ofnadwy hwn, a’r gymuned gyfan, yn haeddu atebion ynghylch yr hyn a arweiniodd at farwolaethau Charles Breslin, David Powell, Philip Hill, a Garry Jenkins a chael gwybod a ellid bod wedi atal eu marwolaethau.”

Cefndir

Ar Fedi 15 2011, yn dilyn ffrwydro arferol yng Nglofa Gleision ger Cilybebyll, Pontardawe, gorlifodd miloedd o alwyni o ddŵr i’r twnnel lle’r oedd saith glöwr yn gweithio.

Er bod tri o’r saith wedi gallu dianc i ddiogelwch, wnaeth y pedwar glöwr arall ddim dianc.

Er gwaethaf ymdrechion gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Achub Mwynfeydd, daeth cadarnhad y diwrnod canlynol fod Charles Breslin, David Powell, Philip Hill, a Garry Jenkins wedi colli eu bywydau.

Fe ddilynodd ymchwiliadau ac roedd cyhuddiadau o ddynladdiad yn erbyn rheolwr y safle ac MNS Mining Ltd., a chafwyd y ddau yn ddieuog o bob cyhuddiad yn ddiweddarach.

Er hyn, roedd cwestiynau’n parhau am weithrediad y pwll dros nifer o flynyddoedd a beth oedd wedi arwain at y trychineb.

Cafodd hyn ei amlygu yn dilyn ymchwiliad annibynnol manwl oedd wedi nodi nifer o faterion nad oedden nhw wedi cael eu hystyried yn flaenorol.

Mae teuluoedd y pedwar dyn gollodd eu bywydau yn Nhrychineb Gleision, perchnogion y pwll glo a chynrychiolwyr etholedig wedi dadlau ers tro bod y dystiolaeth hon yn pwysleisio ymhellach yr angen am gwest llawn, a gafodd ei agor yn wreiddiol ac yna ei ohirio yn 2013.

Fis Hydref eleni, clywodd y Crwner ddadleuon cyfreithiol gan y bargyfreithiwr a gafodd ei gyflogi i gynrychioli’r rhai oedd yn galw arno i agor cwest llawn.