Gobaith Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Ddysgu Cymraeg Cenedlaethol yw cyflwyno rhywfaint o’r iaith i chwaraewyr pêl-droed Cymru, fel eu bod yn gallu dangos i “bobol ifanc a chynulleidfaoedd gwahanol bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio drwyddi draw”.

Mae partneriaeth newydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru’n golygu bod Dona Lewis a’i thîm wrthi’n datblygu rhaglen dysgu Cymraeg i’r gweithlu, y pêl-droedwyr a chefnogwyr ar lawr gwlad.