Chwalwyd y wal dalu ar gyfer yr erthygl hon, i bawb gael blas o arlwy cylchgrawn Golwg…

Mae’r cynhyrchydd teledu 45 oed newydd ei benodi yn Bennaeth Di-Sgript S4C.

Wedi ei fagu yn Aberfan a bellach yn byw ym Mhontypridd, yn fachgen ifanc roedd yn lleisio cymeriad yng nghartŵn gorau erioed S4C…

Beth fyddwch chi’n ei wneud yn y swydd newydd?

Mae yn rôl newydd i S4C ond mae rôl unscripted yn reit gyfarwydd o fewn darlledwyr eraill.

Rhan o’r rôl yw gweithio gyda phartneriaid newydd a dyfnhau’r partneriaethau sydd gan S4C eisoes, a gofalu am gyd-gomisiynau ac adeiladu ar waith mae cynhyrchwyr Cymraeg wedi bod yn gwneud yn rhyngwladol.

Mae’r rôl yn ymestyn ar draws pob math o raglenni sydd ddim wedi eu sgriptio… ry’n ni’n sôn am dreial adeiladu ar lwyddiant fformatau sydd eisoes yn bodoli, fel Am Dro a Gwesty Aduniad, sydd wedi, neu yn cael eu creu gan ddarlledwyr eraill yn Saesneg yn sgîl eu llwyddiant gydag S4C.

Hefyd bydda i yn gweithio lot ar beth rydan ni’n galw yn ddogfennau premiwm, sef rhaglenni dogfen uchelgeisiol iawn gyda gwerthoedd cynhyrchu uchel, sinematig.

A phan rwyt ti’n sôn am bethe uchelgeisiol, mae cael yr adnoddau iawn iddyn nhw yn allweddol.

A falle bod pobol yn cael y camargraff mai dim ond comisiynu [rhaglenni] mae rhywun yn y mathau yma o rôl. Ond mae yna gyfrifoldeb i edrych ar ôl rhaglenni yr holl ffordd trwy’r llwybr – o drafod y syniad reit ar y cychwyn, hyd at ddarlledu, ac ar ôl darlledu hefyd.

Sut wnaethoch chi gychwyn yn y byd teledu?

Wnes i gychwyn yn nyddiau cynnar teledu digidol yn 2000, ar raglen Bandit pan oedd hi’n rhaglen gylchgrawn ar nos Iau, cerddoriaeth ar nos Wener a chwaraeon antur ag ati ar nos Sadwrn.

Roedd angen cynhyrchu 120 o oriau o deledu y flwyddyn ac roedd e’n gyfle i arbrofi ac roedd angen pobol oedd yn gallu dysgu yn gyflym a gwneud sawl rôl.

A’r her, os oeddet ti yn gwneud camgymeriad, roedd e’n cael ei ddarlledu.

Y fantais oedd, ar y diwrnod cyntaf o waith, roeddwn i yn y stiwdio yn cyfrannu at wneud y rhaglen yn dechnegol, ac o ran y cynnwys.

Roedd e’n ffordd o ddysgu yn gyflym ac yn her anhygoel, o ran faint o gynnwys roedd yn rhaid ei greu gyda thîm bach iawn.

Be wnaethoch chi ddysgu tra’n sgwennu i gylchgrawn Golwg? 

Wnes i ddysgu sut i weithio yn gyflym, yn gywir ac yn gryno.

Roeddwn i yn Ohebydd Celfyddydau yn 1999-2000, a ddim yn y rôl yn hir iawn. Ond roedd fy mherthynas gyda Golwg wedi cychwyn cyn hynny, yn sgrifennu colofnau ac adolygiadau tra yn astudio Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Y peth boncers oedd, wnes i orffen y cwrs gradd ar y Gwener, a dechreues i’r swydd gyda Golwg ar y dydd Llun canlynol.

Ac roedd e’n dipyn o newid byd, mynd o fywyd myfyriwr i weithio mewn swyddfa, dros nos.

Beth yw’r rhaglenni mwyaf i chi eu creu? 

Un o’r rhaglenni diweddaraf wnes i uwch gynhyrchu, gafodd impact mawr o ran ffigyrau gwylio a hefyd o ran pobol yn ymateb i fi yn bersonol – pobol sydd byth wedi ymateb i unrhyw beth arall rydw i wedi’i wneud! – oedd Searching for My Other Mam.

Roedd hi’n rhaglen gafodd ei darlledu ar draws y Deyrnas Unedig am 7.30, yn syth ar ôl The One Show.

Mi’r oedd gen ti ddyn o Fethesda yn siarad Cymraeg ar gamera, ac ambell i ddarn o gerddoriaeth Cymraeg ar y trac sain, [a phortread o] gymuned lle mae Cymraeg yn cael ei siarad yn naturiol, a hwnnw yn mynd i setiau teledu ar draws Prydain.

Ar noson y darlledu, wnaeth 1.6 miliwn wylio, ac wedyn yn amlwg mae iplayer ag ati yn golygu bod y rhif terfynol [ar gyfer nifer y gwylwyr] tipyn yn uwch.

Fe gafodd y rhaglen ei chynhyrchu gan Ffilmiau TwmTwm sy’n gwmni bach yn y Felinheli.

Ac mae o jest yn dangos bod doniau Cymraeg yn gallu cyrraedd gwylwyr ar draws Prydain a’r byd, a gwneud hynny yn dweud straeon cynhenid Cymreig sy’n apelio at gynulleidfaoedd eang iawn.

 

Ochr arall y geiniog, roedd Aberfan – The Fight For Justice/Aberfan: Yr Ymchwiliad [yn 2016] yn rhaglen roeddwn i wedi datblygu reit o’r cychwyn ac wedi gwneud pob elfen ohoni. Dod a’r sgript at ei gilydd, cyfarwyddo, cynhyrchu, dod a’r ariannu at ei gilydd ag ati.

Ac fe gafwyd cyfuniad o ffigyrau gwylio uchel iawn, ond impact mawr hefyd.

Pan gafodd hi ei dangos ar draws Prydain, dyna’r rhaglen yn rhif un o ran trendio ar twitter.

A’r diwrnod canlynol roedd sesiwn Prime Minister’s Questions, a wnaeth Jeremy Corbyn a Theresa May drafod y rhaglen – rhywbeth nad yw yr un gwneuthurwr rhaglenni dogfen yn ddisgwyl o gwbwl.

A dw i yn browd iawn o’r rhaglen achos wnaeth hi newid y canfyddiad cyffredinol o ddarn o hanes Cymru a natur y sgwrs.

Sut brofiad oedd gweithio ar ‘Wales: who do we think we are?’ gyda Huw Edwards yn ddiweddar?

Mae’r rhaglenni state of the nation yma yn bethau prin, ac mae yna graffu mawr arnyn nhw hefyd, mwy na fydde wedi bod yn y gorffennol. Ond mae’r hyn sy’n cael ei ddweud ynddyn nhw wedi ei seilio ar ymchwil ac ystadegau.

Y man cychwyn gyda ni oedd ein bod ni yn ymwybodol bod lot wedi newid ers i ni wneud y gyfres The Story of Wales [yn 2012] ac yn sgîl y pandemig.

Roedd edrych ar hunaniaeth yn fan cychwyn, ond be oedd yn dda oedd fod gen ti ymchwil treiddgar swmpus y Welsh Election Study, oedd yn caniatáu i ni fod yn drylwyr.

Achos mae rhaglenni fel hyn yn bwysig i’r sgwrs genedlaethol, ond mae yn hawdd colli golwg ar sut mae Cymru yn newid dros amser, a’r amrywiaeth o safbwyntiau a mathau o hunaniaeth sydd yna.

Sut beth yw ffilmio o amgylch Cymru gyda Huw Edwards?

Yr her fwyaf o weithio gyda Huw yw amser, achos bod pawb eisiau sgwrs a llun.

Pawb eisiau clywed ei farn, neu rannu barn nhw gyda fe.

Ac mae e’n hael iawn iawn ei amser, ac yn amyneddgar iawn.

A dyna’r her – sicrhau ein bod ni yn gwneud y job o waith yr yden ni i fod i’w wneud! 

Beth yw eich hoff gyfres deledu erioed?

Ychydig bach yn eironig, maen nhw i gyd yn gyfresi sydd wedi eu sgriptio… a galla i ddim enwi UN gyfres, mae fe’n amhosib!

The West Wing, Ghosts a Mum.

Dw i newydd orffen gwylio trydedd gyfres Mum, ac mae’r sgwennu a’r actio yn ffantastig.

A dw i wirioneddol wedi mwynhau Ysgol Ni: Y Moelwyn.

Mae storis [plant] yr arddegau, a Blaenau [Ffestiniog], yn ddiddorol iawn.

Wnaethon nhw jobyn ffantastig gyda’r gyfres ac ennill BAFTA ychydig wythnosau yn ôl.

Sut fagwraeth gawsoch chi?

Hollol normal a hapus, a wnes i gyfeirio at hynny pan wnes i ennill y BAFFTA am y rhaglen am Aberfan.

Achos roedd y ffaith i mi gael magwraeth mor normal yn dyst i waith arwrol llawer o unigolion oedd wedi helpu i ailadeiladu’r gymuned a’r pentref.

Ymdrech arwrol gan deuluoedd oedd wedi mynd trwy uffern.

 

Mae fy rhieni wedi ymddeol. Mae Dad yn fecanic ac yn ymarferol iawn, ac mae fy Mam yn ieithydd.

Doedd hi ddim wedi ei magu ar aelwyd Gymraeg, felly ddysgodd hi’r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgol cyfrwng Saesneg…

Cymraeg oedd iaith y cartref erbyn i fi gyrraedd…

Roedd rhywfaint o Gymraeg gan fy Nhad, a wnaeth fy Mam lwyddo i adfywio hynny.

Beth yw eich ofn mwya’?

Rhywun yn dweud y drefn wrtha’i.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Pilates Clasurol – ti’n ei wneud e ar offer sydd yn edrych yn frawychus.

Dw i wedi bod yn ei wneud e ers nifer o flynyddoedd oherwydd problemau sydd gyda fi gyda fy nghefn, i drio cryfhau.

Beth sy’n eich gwylltio?

Y ffaith fod gen i gof gwael iawn, yn enwedig am enwau.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Y cerddor Bjork, David Byrne o’r Talkig Heads – es i weld e yng Nghaerdydd ar y daith fawr ddiwetha wnaeth e. Y gig ore fi erioed wedi’i gweld.

A’r trydydd fydde’r dramodydd Americanaidd Sam Shepard.

Y wledd – gwin a bwyd Sbaenaidd.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Fy ngwraig Rhiannon.

Roedden ni yn yr ysgol yr un pryd, yn [Ysgol Uwchradd] Rhydfelen [ym Mhontypridd], a wnaethon ni ddod i nabod ein gilydd fwy pan oedden ni yn y Chweched Dosbarth.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

****

Hoff wisg ffansi? 

Rydw i yn casáu gwisg ffansi ar ôl i barti gwisg ffansi ar y thema James Bond gael ei gêt-crasho gan aelodau o’r band Anweledig. Aeth e’n messy iawn…

Hoff wyliau?

Dathlu’r Calan yng Ngwlad yr Iâ jesd cyn covid.

Roedden ni wedi cynilo yn hir iawn i fynd ar gyfer gwyliau unwaith-mewn-bywyd.

Aethon ni fyny rhewlif mewn [cerbyd] 4×4… ac ar Nos Galan aethon ni i goelcerth yn un o’r maestrefi yn Reykjavik ac roedd y gymuned yn canu caneuon traddodiadol a dawnsio.

Ac roedd yna dân gwyllt nyts yng nghanol dre wedyn.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Chwyrnu fy ngwraig… a dw i wedi cael caniatâd i ddweud hynny.

Hoff ddiod feddwol?

Cwrw go-iawn gyda lot o flas.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Wnes i wir fwynhau’r nofel The Girl Who Saved the King of Sweden gan Jonas Jonasson, doniol iawn.

A dw i wedi mynd yn ôl at Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard mwy nag unwaith.

A wnes i wir fwynhau Easy Riders, Raging Bulls gan Peter Biskind. Mae e’ am gyfnod aur y byd ffilmiau [yn y 1970au], a sut wnaeth addewid y cyfnod yna droi mewn i rywbeth cwbwl wahanol a masnachol.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Roeddwn i yn actor llais ar gyfres SuperTed yn fy arddegau cynnar, yn 1990.

Roedd yn brofiad boncyrs i rywun 11 oed, ac mae’n siŵr fod o’n rhan o’r rheswm pam bo fi yn y swydd yma nawr.