Wrth i S4C ddathlu ei ben-blwydd yn 40, mae’r cynnydd aruthrol mewn chwyddiant ariannol yn y Deyrnas Unedig yn peri gofid i benaethiaid y sianel.

Daw hyn er gwaethaf y ffaith bod gan y sianel “sicrwydd ariannol am gyfnod o bum mlynedd”.

Ar hyn o bryd, mae’r sianel yn derbyn £88.85 miliwn o gyllid y flwyddyn sy’n dod o Ffi Drwydded y BBC, sy’n cynnwys y £7.5m ychwanegol gafodd ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn er mwyn datblygu arlwy digidol ar y We.