Mae Adra yn cyflogi wyth o bobol leol ac wedi ennill gwobr am werthu ar y We…

Er bod y cyfnodau clo a’r argyfwng costau ynni wedi gorfodi sawl siop i gau ei drysau, mae un cwmni sy’n gwerthu nwyddau ac anrhegion Cymreig yn ffynnu ers y pandemig.

Bydd Adra, y busnes sy’n cyflogi wyth o weithwyr ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon yng Ngwynedd, yn dathlu pymtheg mlynedd o fasnachu ddydd Llun nesaf (7 Tachwedd), ac maen nhw’n brysurach nag erioed.