Gyda’r sianel genedlaethol yn dathlu’r deugain yr wythnos yma, mae hi’n gyfle i hel atgofion… Am ei chyfresi dramâu megis Minafon, Dinas a Talcen Caled; cyfresi comedi fel y bythol C’mon Midffîld a’r deifiol Dim Byd; rhaglenni mawr poblogaidd fel Cefn Gwlad a Pobol y Cwm; stwff i’r ifanc fel Stîd a Fideo 9 … heb anghofio’r arlwy i’r rhai bach, o SuperTed i Guto Gwningen.