Ynghanol blogiau am Galan Gaeaf a Samhain, mae yna rai sy’n sôn am hunllefau go-iawn, cyfoes. Yn Iwerddon, er enghraifft, mae’r tebygrwydd o etholiad cyffredinol yn ychwanegu at lwyth o broblemau eraill…
“Mae’n ymddangos bod Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon… yn mynd i fwrw ymlaen gydag etholiad nad oes yr un blaid ei eisiau, un a fydd yn atal pob trafodaeth yn y fan a’r lle (ac efallai yn eu bwrw yn ôl) gan arwain at yr un canlyniad etholiadol… Y canlyniad yn y bôn erbyn Rhagfyr 2022, yw y byddwn i gyd yn waeth ein byd a fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fyth wedi cyflawni ei haddewid i unoliaethwyr – dim ffin rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon… Felly, yn lle tanseilio Cynulliad Gogledd Iwerddon, dylai (ac fe allai o hyd) y DUP [y blaid unolaethol] lyncu ei balchder a thynnu ei hASau o San Steffan ac, ar yr un pryd, ailsefydlu Cynulliad Gogledd Iwerddon… pwynt cyffredin methiant y broblem yma yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig.” (Alex Scates ar sluggerotoole.com)
Mae’r un teimlad o argyfwng gwleidyddol sylfaenol yn sylwadau Ben Wildsmith ar nation.cymru…
“Pan oedd [Boris] Johnson yn trin y wlad fel stafell chwarae ar gyfer ei blentyndod estynedig, roedden ni’n gallu beio pleidleiswyr yn Lloegr a ddryswyd gan Brexit a ildiodd i’w gynigion chwyslyd. Aelodau cyson anghywir y Torïaid a orfododd Liz Truss arnon ni. Y tro yma, does neb o gwbl wedi pleidleisio dros awdur ein trueni [Rishi Sunak]. Doedd gan ASau Torïaidd hyd yn oed ddim dewis yn y diwedd. Os byddwn yn godde’ hyn yn dawel, fydd neb i’w beio ond ni ein hunain.”
Ond ar bevanfoundation.org, roedd Melanie Simmonds o’r elusen Achub y Plant yn disgrifio rhai o’r unigolion fydd yn talu am y problemau…
“A dyma ni yn y flwyddyn 2022 ac yn parhau i glywed straeon am blentyn mor ifanc â saith mlwydd oed yn dweud wrth ei hathrawes ei bod yn poeni am ei mam, gan iddi ei gweld yn crio am fod yna ddim ond tun o ffa pob yn y cwpwrdd bwyd. Mam arall yn dweud wrthym mai dim ond £50 sydd ganddi yn weddill i fwydo teulu o bedwar wedi iddi dalu ei biliau i gyd ac nad yw’n gwybod ble arall i droi.”
Er hynny, mae John Dixon yn gweld gobaith (i’r frawdoliaeth droseddol o leia’) yng ngweithgareddau’r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman…
“O gofio ei bod wedi rhannu dogfen gyfrinachol yn fwriadol gyda rhywun oedd heb hawl i’w gweld, heb sôn am sawl awgrym mai patrwm o ymddygiad oedd hyn nid digwyddiad untro, gallai arwain at agwedd newydd at drosedd a chosb. Dychmygwch yr arbedion i’r system gyfiawnder troseddol pe bai troseddwyr… yn gallu cyfadde’ eu camgymeriad, ymddiheuro a pharhau gyda’u gweithgareddau troseddol heb rwystr.” (borthlas.blogspot.com)
A dyma neges o obaith go-iawn, o Frasil, lle llwyddodd cyn-arlywydd asgell chwith, Lula, i orchgyfu dyn y dde eithafol, Bolsonaro…
“Fel yr aralleiriodd Lula mewn araith ddiweddar: ‘Gallwch dorri un, dau, cant o flodau. Ond allwch chi ddim atal y gwanwyn. Chwilio am y gwanwyn yw ein brwydr ni’.” (Sam Gonçalves ar bellacaledonia.org.uk)