Mae hi’n “hunanladdiad” i gyfres ddrama pan mae S4C yn rhoi un o’r prif rannau i actor nad yw’n medru’r Gymraeg yn iawn, yn ôl un o actorion amlycaf y sianel.

Yn ei hunangofiant newydd, Actores a Mam, mae Sharon Morgan yn sôn am ei gyrfa brysur drwy’r 1980au a’r 1990au, gan gynnwys actio patholegydd fforensig ar sawl cyfres o’r ddrama dditectif ddwyieithog Yr Heliwr/A Mind to Kill.