Mae busnes teuluol o Landysul sy’n gwerthu crefftau Cymreig a newyddau masnach deg, wedi llenwi hen uned siop Disney mewn canolfan siopa yn Abertawe yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Roedd cwmni Cadwyn wedi cael llwyddiant y llynedd ar ôl agor siop dros dro am bum wythnos cyn y Nadolig yn hen siop gadwyn Game yng nghanolfan siopa Quadrant yn y ddinas.