Mae’n ymddangos nad yw Mark Drakeford a Syr Keir Starmer yn cydweld pan ddaw hi at fynychu Cwpan y Byd yn Qatar fis nesaf.

Yr wythnos yma, gwnaeth arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig hi’n glir nad yw’n bwriadu ymweld â Qatar.

Wrth siarad ar orsaf radio LBC, dywedodd Starmer y byddai “wrth ei fodd yn mynd, ond mae record hawliau dynol y wlad yn golygu na fydda i’n mynd a dyma fydd safbwynt y blaid Lafur”.