Mae un o hoelion wyth y byd canu gwerin Cymraeg wedi rhannu’i hatgofion drwy ganeuon mewn cyfrol newydd.

Boed fel cantores unigol neu yn aelod o grŵp, mae dylanwad Siân James ar y traddodiad gwerin yn rhychwantu dros bedwar degawd.

O rannu llwyfan â thalentau megis Tich Gwilym a Christy Moore a’i fand, Moving Hearts, i’w gwaith fel actores, caiff hanes y ferch o Faldwyn ei rannu yn Gweld Sêr.