Mae Cymdeithas y Cymod yn cyfarfod yn y Bala heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 21) i anfon llythyrau at wleidyddion yn galw am heddwch yn Wcráin.

Syniad y Parchedig Phillip de la Haye, gweinidog sydd wedi ymddeol ac sy’n byw yn y dref, oedd gyrru llythyrau at yr arlywyddion Volodymyr Zelenskyy a Vladimir Putin yn annog y ddau i gytuno ar gadoediad.

Bydd llythyrau’n cael eu gyrru at Rishi Sunak a Mark Drakeford hefyd, yn eu hannog i wneud popeth o fewn eu gallu i beidio hybu’r rhyfel ond i sicrhau cytundeb heddwch.

“Bydd llythyron wedi eu cyfeirio at Arlywydd Zelenksyy ac Arlywydd Putin yn annog y ddau arweinydd i negydu cadoediad a chytundeb heddwch teg cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn yr henoed, y diamddiffyn a’r holl ddinasyddion a milwyr sydd wedi cael eu dal ynghanol y rhyfel erchyll yma,” eglura Siân Cwper, ar ran Cymdeithas y Cymod, wrth golwg360.

“Mae Cymdeithas y Cymod ynghyd â mudiadau heddwch eraill yng Nghymru’n mynegi eu pryder bod pwerdai niwclear ar y rheng flaen mewn gwrthdaro ac yn ychwanegu bygythiad dirfodol i’r gwrthdaro.

“Os fysa yna ddigon ohonom ni’n codi ac yn mynnu bod pobol yn dod i gytundeb, fysa hi’n bosib bod o’n cael effaith.

“Mae o’n teimlo’n anodd, mae o’n teimlo fel bod yna ddim byd y gallwn ni ei wneud.

“Ond mae o werth trio.

“Ac fel dw i’n dweud, os fysa yna ddigon o bobol yn teimlo’n ddigon cryf amdano fo ac yn mynegi hynna, fysa fo’n help.”

Cyfrifoldeb y Gorllewin

Bydd y llythyrau’n cael eu llofnodi gan Phillip de la Haye, sy’n dweud bod y syniad yn “tarddu o ddyhead dwfn am heddwch a chymod rhwng y ddwy genedl hyn”.

Fy fydd y criw yn cyfarfod am 12:30 yn y Bala i yrru’r llythyrau, ac ychwanega Awel Irene, cydlynydd Cymdeithas y Cymod, fod rhaid i’r Gorllewin “gymryd cyfrifol am eu gweithredoedd yn ymestyn – ac, wir, yn hybu’r rhyfel yma”.

“Mae’n hen bryd i’r llywodraethau i gyd ddeffro i’r ffaith bod mwyafrif llethol y bobol eisiau heddwch a chyd-ddeall rhwng cenhedloedd a’i gilydd,” meddai.