Mae Nia Medi wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad ITV y bydd Jeremy Clarkson yn parhau i gyflwyno Who Wants to Be a Millionaire? yn dilyn “nifer o gwynion” am ei sylwadau am Meghan Markle.

Mewn colofn i The Sun, dywedodd ei fod yn “breuddwydio am y diwrnod pan fydd hi’n cael ei gorfodi i orymdeithio’n noethlymun drwy strydoedd pob tref ym Mhrydain tra bod y torfeydd yn siantio ‘Cywilydd!’ ac yn taflu lympiau o garthion ati”.

Fydd e ddim yn wynebu cyhuddiadau troseddol, er bod Scotland Yard yn dweud eu bod nhw wedi derbyn “nifer o gwynion” ac er i Ipso, y corff sy’n arolygu safonau’r wasg, yn dweud bod y golofn wedi denu mwy o gwynion nag unrhyw erthygl arall eleni.

Yn ôl Jeremy Clarkson, roedd ei sylwadau’n gyfeiriad “trwsgl” at Game of Thrones, ac mae’n dweud y bydd yn “fwy gofalus yn y dyfodol”.

Ond mae gwefan The Sun wedi dileu’r golofn, ac maen nhw’n dweud bod y cyflwynydd wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny.

Yn ôl un Kevin Lygo, un o benaethiaid ITV, does ganddyn nhw “ddim rheolaeth dros yr hyn mae’n ei ddweud”, ond wrth siarad fel unigolyn, dywedodd fod sylwadau Jeremy Clarkson “yn ofnadwy”.

‘Cynsail peryglus’

Wrth ymateb mewn rhinwedd bersonol, mae Nia Medi yn dweud bod ITV wedi gosod “cynsail peryglus”.

“Felly mae gyda ni ddarlledwr blaenllaw ar hyn o bryd yn hapus i wobrwyo casineb yn erbyn menywod, ynghyd â rhywiaeth a hiliaeth,” meddai.

“Mae’n gwbl amlwg nad oedd yna fenyw – heb sôn am ffeminist – yn y stafell pan gafodd y penderfyniad yma ei wneud.

“Mae’n gynsail peryglus ac yn rhoi’r neges anghywir allan ar bob lefel.

“Gwnewch yn well ITV.”

Fel ôl-nodyn, mae Nia Medi yn awgrymu Carol Vorderman fel olynydd posib i Jeremy Clarkson ar Who Wants to Be a Millionaire? gan ddweud y byddai hi’n ddewis “anhygoel”.