“I saw you beat that man, like I never saw no man get beat before, and the man kept coming after you. Now we don’t need that kind of man in our life.”

(Duke, hyfforddwr Apollo Creed, Rocky II, 1979)

Sgwennwyd y geiriau arloesol hyn gan lenor hefo dyslecsia am gymeriad hefo dyslecsia, cyn i fi hyd yn oed gael fy ngeni. Mae dyfalbarhad penigamp nawr yn cael ei ddathlu fel un o’r nodweddion positif gan bobol hefo dyslecsia. Yn wir, mi roedd Sylvester Stallone ar flaen y gad wrth iddo drwytho’r ffilmiau yn y fasnachfraint â chyfeiriadau at ddyslecsia a’i nodweddion amrywiol.

Yn y ffilm gyntaf, rydym yn gweld Rocky yn gofyn am help hefo’i sillafu, ac yn cael ei fychanu. Ar dechrau’r ail ffilm, rydym yn gweld Rocky yn cael ei farnu’n hallt ar ôl sesiwn o geisio ffilmio hysbyseb aftershave hefo’r geiriau cas, “You cost us thousands of dollars because you can’t read”.

Ond erbyn y drydedd ffilm, mae Rocky wedi ffeindio ffordd amgen o berfformio sgript mewn hysbyseb, yn hytrach na darllen oddi ar y Dummy cards; mae’n dysgu’r sgript, neu efallai’r hanfod yn gyffredinol tra’n gwneud ad-lib ar y gweddill.

Mae hyn yn benodol yn taro deuddeg hefo fi, gan yr wyf yn medru cofio pob gair mewn sgript gyfan o ffilm, a’i hadrodd yn ôl, ond yn stryglo wrth ddarllen yn uchel eiriau sydd yn gwbl anghyfarwydd i mi fel auto-cue.

Penbleth dyslecsia

Fel rhywun hefo dyslecsia felly, medraf dystio fod y ffilmiau yma yn cynnig portread pwerus o fywyd hefo dyslecsia, a medraf uniaethu â hi yn bersonol ar sawl lefel. Mae’r ffilmiau wastad wedi bod ymysg fy ffefrynnau, ac yn fwy fyth ar ôl i mi ddod i wybod fy mod yn rhannu’r cyflwr hefo un o fy arwyr sgwennu.

Ond mae hyn oll yn codi’r cwestiwn felly: gan fod y doethineb yma yn barod ar gael yn rhyngwladol, pam wnaeth o gymryd tan oeddwn i yn fy arddegau hwyr i mi gael diagnosis o’r cyflwr oedd wrth wraidd fy anawsterau addysgol arbennig (SEN)? Neu, yn wir, i unrhyw un gydnabod fod yna broblem o gwbl? A hynny er gwaetha’r ffaith ei fod yn boenus o amlwg, yn fy achos i, fod rhywbeth mawr o’i le?

Yn fwy o ddryswch fyth yw’r ffaith fod pethau ddim i’w gweld wedi newid llawer ers i mi fod wrthi’n cael fy addysg yng Nghymru, nôl yn yr 80au a 90au, gyda phlant a’u rhieni dal yn gorfod brwydro i gael profion dyslecsia, athrawon yn gorfod talu dros eu hunain i gael hyfforddiant yn y maes, a rhai ysgolion yn ‘cau cydnabod dyslecsia o gwbl!

Shari Llewelyn a’i Rhwydwaith Dyslecsia a’r Celfyddydau

Yn ddiweddar, ges i fy ngwahodd i ymuno â’r rhwydwaith grëwyd gan un rhiant i blentyn hefo dyslecsia, oedd wedi cael digon ac am weld newid, sef Shari Llywelyn. Mae hi wedi bod wrthi’n codi sgwarnogod ar hyd a lled Cymru, gan hefyd ymgynghori hefo arbenigwyr rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig, gan gydlynu criw o randdeiliaid i fynd i’r afael â’r mater.

Yn ddiweddar, mynychais ail gyfarfod y rhwydwaith a gwrando ar gyflwyniadau calonogol ac ysbrydoledig, gan gynnwys gwaith arloesol Dyslexia Scotland.

Hyfryd oedd clywed am y prosiect ‘Mission Superheros’, sydd wedi’i greu gan bobol hefo dyslecsia, gan ddefnyddio celf a storïau i gyfleu’r math o negeseuon positif y gwnaeth Stallone eu cyfleu hefo’r ffilmiau Rocky. Enwau’r archarwyr yw Creatia, Persisto, a Willforce. Braf fyddai cael gweld rhywbeth tebyg trwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd wedi ei baratoi gan artistiaid a llenorion dyslecsig.

Taclo’r heriau trwy’r celfyddydau

Does dim ddwywaith amdani. Mae Cymru ar ei hôl hi wrth fynd i’r afael â dyslecsia a chynnig hwyluso pethau i bobol sy’n byw hefo’r cyflwr. Yn hynny o beth, y genedl gyfan sydd ar ei cholled, wrth ffaelu â galluogi pobol hefo dyslecsia i wireddu eu gwir botensial a chyfrannu eu lleisiau a doniau unigryw. Mae gennym rywbeth gwerthfawr i’w gynnig!

Yn wir, y cyngor rwyf wedi ei dderbyn fel bardd, wrth drafod fy mhroblemau llythrennedd, yw “gofyn i ffrind sbio drosto i ti”. Mae hyn wrth gwrs yn cymryd yn ganiataol fod gan rywun ‘ffrindiau’ sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg digonol i brawfddarllen iddynt. Ond mae problemau eraill hefyd.

Fel Stallone a llenorion / artistiaid ‘Mission Superheroes’, dwi am ymateb yn gelfyddydol hefo cerdd – gan gydnabod yr elfen meta eironig o ofyn i’r golygydd yn fama i brawfddarllen y gerdd (diolch!).

Ffiniau ffrindiaeth*

Baich
yw bod yn ‘ffrind’
i fardd
sydd â
niwrowahaniaeth.

Prawfddarllenwr
di-dâl
i lythrennedd gwael,
gan danseilio
gyrfa’r
golygyddion.

A ta waeth
am foeseg
a rhethreg
y weithred…

A yw’n farddoniaeth
wedi’r cwbl?
Ac, yn wir,
a allwn
alw hwn
yn ‘ffrindiaeth’?

*Yn ôl GPC, gair arall am ‘cyfeillgarwch’.