Mae Mark Drakeford wedi dweud y byddai’n rhaid iddo gyfiawnhau wrth yrwyr tacsi Bangladeshi yng Nghaerdydd pam ei fod e’n ariannu ffermwyr.
Daeth sylwadau Prif Weinidog Cymru yn ystod Sioe Llanelwedd, wrth iddo annog ffermwyr i “wneud pethau mae trethdalwyr yn fodlon buddsoddi ynddyn nhw” er mwyn parhau i gael eu hariannu, yn ôl BBC Cymru.
Mae gofyn i ffermwyr blannu coed ar o leiaf 10% o’u tir er mwyn bod yn gymwys ar gyfer arian yn y dyfodol, ond mae NFU Cymru yn dweud bod ffermwyr yn rheoli 80% o dir Cymru ac yn denu miliynau o dwristiaid.
Ond mae Mark Drakeford wedi wfftio’u pryderon.
Mae disgwyl i’r cynllun ariannu newydd i ddisodli arian gan yr Undeb Ewropeaidd ym maes amaeth gael eu cyflwyno yn 2025 ac ymhlith yr opsiynau eraill sy’n cael eu hystyried er mwyn bod yn gymwys mae creu llynnoedd a helpu i reoli cynefinoedd bywyd gwyllt.
“Os ydych chi am fanteisio ar yr arian hwnnw, os ydych chi am gael help gan drethdalwyr Cymru, yna bydd rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o ddod â’ch hun o fewn y cynllun sy’n fy ngalluogi i, fel Prif Weinidog, i gyfiawnhau wrth yrwyr tacsi Bangladeshi yng Nglan-yr-afon, lle dw i’n byw, pam ddylen nhw dalu eu trethi er mwyn cefnogi ffermwyr yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford.
‘Syfrdanol’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod sylwadau Mark Drakeford yn “syfrdanol”.
“Dw i’n ei chael hi’n syfrdanol fod y Prif Weinidog wedi dewis y Sioe Frenhinol gyntaf ers tair blynedd i arddangos lefel o ddiystyrwch tuag at ein diwydiant ffermio,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y blaid.
“Nid yn unig mae amaeth yn biler yn economi Cymru, ond mae’n angenrheidiol i gymunedau ar hyd a lled y wlad, gan chwarae rôl ganolog yn ein diwylliant ac wrth gynnal yr iaith Gymraeg.
“Mae ffermwyr Cymru’n cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru, fel craig i’n diwydiant bwyd a diod gwerth £7bn fel prif gynhyrchwyr, ac fel conglfaen yr economi wledig ehangach.
“Felly pan ddywedodd Mark Drakeford y dylai ffermwyr wneud rhywbeth mae trethdalwyr yn fodlon buddsoddi ynddo fe, byddwn i’n syml iawn yn dweud hebddyn nhw, byddai ein diwydiant bwyd a diod a’n heconomi wledig yn dioddef cryn ddifrod.
“Dw i wedi dweud ers tro byd fod angen ffrind ar ffermio, ac mae’n ymddangos bod Llafur yn ei gwneud hi’n glir iawn nad ydyn nhw eisiau bod y ffrind hwnnw.
“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser yn cefnogi ffermwyr Cymru.”