Mae cynllun newydd i helpu’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i broblemau diogelwch tân yn cael ei lansio heddiw (Mehefin 27).

Bydd y cynllun newydd yn darparu cymorth annibynnol wedi’i deilwra i lesddeiliaid sy’n cael eu heffeithio gan y sefyllfa.

Yn dilyn trychineb Grenfell, daeth i’r amlwg bod yna ddiffygion diogelwch tân mewn nifer o fflatiau, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i dalu i ailgladio tai cymdeithasol, mae nifer o lesddeiliaid preifat yn wynebu costau er mwyn gwneud gwelliannau i ddiogelwch tân a gwaith ailgladio.

Mae’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid, a fydd yn agor heddiw am 10 y bore, wedi’i dargedu at lesddeiliaid sy’n berchen-feddianwyr, a phreswylwyr sydd wedi cael eu dadleoli.

Bydd pob lesddeiliad sy’n gymwys ar gyfer y cynllun yn derbyn cyngor gan Gynghorydd Ariannol Annibynnol, gyda’r costau llawn yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru.

Y gobaith yw y bydd y cyngor yn eu helpu i wneud y penderfyniad sy’n gywir iddyn nhw ac, os mai gwerthu eu heiddo yw’r opsiwn cywir, bydd Llywodraeth Cymru yn eu galluogi i werthu eu heiddo am bris marchnad teg.

‘Dim ateb cyflym na hawdd’

Wrth lansio’r cynllun, dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James, y bydd y rhaglen yn “helpu’r rhai y mae angen cymorth arnynt fwyaf”.

“Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n partneriaid allanol a’r arbenigwyr sector sydd wedi ein helpu ni i ddatblygu’r cynllun hwn mor gyflym,” meddai.

“Mae eu cymorth a’u gwaith caled wedi bod yn hanfodol wrth benderfynu ynghylch y meini prawf cymhwysedd a’r prosesau cymorth cywir.

“Rhaid i’r gwaith o fynd i’r afael â diffygion diogelwch tân mewn adeiladau uchder canolig ac uchel iawn fynd y tu hwnt i gladin, i sicrhau bod yr adeiladau hyn mor ddiogel ag y gallant fod.

“Dyma fu ein bwriad o’r dechrau un ac, er ei fod yn gwneud nodi problemau ac wedyn gweithredu i’w datrys yn fwy cymhleth o lawer, dyma’r opsiwn cywir.

“Nid oes unrhyw atebion cyflym na hawdd, ond nid oes lle ar gyfer cyfaddawdu wrth sicrhau atebion cywir a chynaliadwy.

“Gallai unrhyw beth llai arwain at ragor o broblemau’n codi, ac mae’n bwysig imi ein bod yn datrys y problemau hyn unwaith ac am byth.

“Rhaid cael hyn yn iawn – i ddatrys y broblem hon nawr ac ar gyfer y dyfodol.”

Arian nid cyngor sydd ei angen ar gyfer cladin, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y Blaid Lafur i gyflwyno cyllid i bobol sy’n byw mewn fflatiau gyda chladin peryglus ar unwaith.

Dywedodd Janet Finch-Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Dai, y Ceidwadwyr Cymreig: “Ers blynyddoedd, mae pobol yng Nghymru wedi bod yn byw mewn ofn o ganlyniad i gladin peryglus gydag ychydig iawn o help yn dod gan y Llywodraeth Lafur.

“Nid oes angen cyngor ar bobol sy’n byw yn y fflatiau hyn, maen nhw angen mynediad at arian parod.

“Tra bod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi bod yn arwain y ffordd wrth ymdrin â chladin peryglus, mae Llafur yng Nghymru wedi bod rhy araf yn cyflwyno cyllid.

“Mae’n hanfodol bod cymorth ariannol ar gael fel nad yw pobol yn cael eu gorfodi i werthu eu fflatiau i’r Gweinidog, a’u bod nhw’n gallu byw yn eu cartrefi heb ofn.

“Mae angen i weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd drin y mater hwn gyda’r difrifoldeb y mae’n ei haeddu a sicrhau bod pobol sy’n byw mewn fflatiau peryglus yn gallu cael gafael ar arian parod yn gyflym,” meddai.

“Angen eglurdeb a datrysiad ar frys i’r argyfwng cladin sy’n wynebu lesddeiliaid”

Cadi Dafydd

“Dyw pobol methu talu’r biliau hyn. Maen nhw’n achosi problemau iechyd meddwl anferth,” meddai un lesddeilydd wrth golwg360
Tŵr Grenfell a fflamau a mwg yn codi ohono

Anghofio am lesddeiliaid Cymru

Kelly Wood

Yr ymgyrchydd Kelly Wood sy’n trafod sefyllfa lesddeiliaid sy’n gorfod talu am wella diffygion diogelwch tân mewn fflatiau