Fe wnaeth allforion bwyd a diod o Gymru gyrraedd y lefel uchaf erioed yn 2021, meddai Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru.

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaeth Cymru allforio gwerth £641m, a Chymru welodd y cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth yr allforion rhwng 2020 a 2021 o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig.

Bu cynnydd o £89m, neu 16.1%, yn allforion bwyd a diod Cymru rhwng 2020 a 2021.

Y categorïau allforio â’r gwerth uchaf oedd cig a chynhyrchion cig ar £187m, yna grawnfwydydd a pharatoadau grawnfwyd ar £139m, a chynnyrch llaeth ac wyau ar £106m.

Roedd allforion bwyd a diod Cymru i’r Undeb Ewropeaidd werth £465m yn 2021, cynnydd o £51m ers 2020, gan gyfrif am 73% o’r cyfanswm.

Roedd wyth o’r deg prif gyrchfan allforio bwyd a diod o Gymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a’r ddwy wlad arall oedd yr Unol Daleithiau a Saudi Arabia.

Aeth y rhan fwyaf o’r allforion i Weriniaeth Iwerddon, Ffrainc, yr Iseldiroedd, a’r Almaen, ac bu cynnydd sylweddol mewn allforion i Wlad Belg – o £21m yn 2020 i £56m yn 2021.

‘Arwain y ffordd’

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ei fod yn “newyddion gwych” bod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd eu gwerth uchaf erioed.

“Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn ac mae’r ffigurau hyn yn dangos yn glir gadernid a phenderfyniad ein cwmnïau o Gymru i lwyddo mewn marchnadoedd tramor,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae’r diwydiant yng Nghymru hefyd yn arwain y ffordd o bedair gwlad y Deyrnas Unedig gyda’r cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth allforion bwyd a diod.

“Rwy’n falch bod Rhaglen Allforio Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau i ehangu masnach mewn marchnadoedd newydd a phresennol mewn gwledydd ledled y byd.”