Mae undeb gwasanaethau cyhoeddus yn dweud fod angen i weithwyr gofal yng Nghymru dderbyn y cyflog byw gwirioneddol a gafodd ei addo iddyn nhw yn gynharach eleni gan Lywodraeth Cymru.
Mae UNSAIN, sef yr undeb fwyaf sy’n cynrychioli gweithwyr gofal yng Nghymru, yn galw ar bob gweithiwr gofal i gysylltu â nhw os nad yw eu cyflogwyr yn talu’r cyflog byw gwirioneddol o £9.90 yr awr iddyn nhw eto.
Yn ôl yr undeb, sicrhau cynnydd ar y cyflog byw yw’r cam cyntaf yn unig i wella amodau byw i’r gweithlu.
‘Hen bryd i ni gefnogi’ gweithwyr gofal
Dywedodd Denise Thomas, gweithiwr cymorth cymunedol yng Nghaerdydd: “Ar ddechrau’r pandemig, daeth pawb at ei gilydd i glapio gofalwyr.
“Dydy hi ond yn deg bod gweithwyr yn y sector gofal yn cael cydnabyddiaeth drwy gael codiad cyflog a fydd yn caniatáu iddyn nhw ymdopi â’r cynnydd i gostau byw.
“Mae’r sector yn gweithio’n galed i ofalu am aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas, ac mae’n hen bryd inni gefnogi’r rhai sy’n aml yn gweithio shifftiau 24 awr gyda chyflog sy’n cyfateb i’r gwaith y maen nhw’n ei wneud.”
Cyflog byw gwirioneddol ond yn ddechrau’r daith
Dywedodd Mark Turner, arweinydd gofal UNSAIN Cymru, fod gweithwyr gofal ar draws y Deyrnas Unedig yn teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio a’u hecsbloetio.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu cyflogwyr i dalu isafswm o’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal yng Nghymru o fis Ebrill eleni,” meddai Mark Turner.
“Bydd y rhan fwyaf o weithwyr gofal yn dechrau derbyn y gyfradd newydd ym mis Mehefin, wedi’i hôl-ddyddio i fis Ebrill.
“Mae’n bwysig bod gweithwyr gofal yn gwirio eu slipiau cyflog i weld pa effaith mae’r gyfradd newydd yn ei chael.
“Mae UNSAIN yn poeni efallai na fydd rhai cyflogwyr yn trosglwyddo hyn i’w staff.
“Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn gychwyn, ond mae UNSAIN yn parhau i frwydro am well cyflog, amodau a llais i weithwyr gofal,” meddai.