“Mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn lot gormod o diriogaeth yng Nghymru,” yn ôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon.
Daw hyn wrth i bobol gael eu rhybuddio i aros allan o ran helaeth o’r môr oddi ar arfordir Cymru am gyfnod o dair wythnos am resymau diogelwch.
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) yn bwriadu cynnal profion oddi ar arfordir gorllewin Cymru, yn ardal Bae Ceredigion.
Bydd y gweithgaredd yn cynnwys “un o’r arfau mwyaf rydym yn ei ddefnyddio”, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Fe fydd pob cwch neu long yn cael eu cynghori i gadw draw o’r ardal ar y môr rhwng 9:30yb a 5:00yh rhwng Mehefin 6 a 10, yn ogystal â Mehefin 13 a 15
Mewn llythyr agored, mae cwmni Qinetiq sydd yn rhedeg y safle yn Aberporth, yn dweud bod rhaid cadw’r ardal yn glir am “resymau diogelwch” a bod “cydweithrediad pawb yn cael ei werthfawrogi”.
“Mae gennym weithgaredd ar y gweill sy’n dechrau ar Fehefin 6, sy’n rhedeg am dair wythnos (oni bai eu bod yn cwblhau’n gynharach),” meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn mewn datganiad.
“Yn anffodus, mae’r gweithgaredd yn cynnwys un o’r arfau mwyaf rydym yn ei ddefnyddio, sy’n golygu bod angen i ni gadw’r rhan fwyaf o’r bae’n glir o longau.
Mae hyn yn cynnwys y môr oddi ar fannau poblogaidd i dwristiaid o Gymru fel Llangrannog, Cei Newydd ac Aberaeron.
“Gormod o diriogaeth”
“Mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn lot gormod o diriogaeth yng Nghymru, ac mae hyn yn amlwg yn mynd i dorri ar draws defnydd arferol pobol o’r môr,” meddai Hywel Williams wrth golwg360.
“Fy safbwynt i a safbwynt y Blaid erioed ydi fod Cymru’n cael ei defnyddio fel maes profi ac yn cael ei gor-ddefnyddio, hyd yn oed, tasai rhywun yn derbyn fod y ffasiwn beth yn dderbyniol yn y lle cyntaf.
“Mae hyn yn mynd yn ôl i’r ’50au pan ddaru nhw glirio cymunedau allan o Epynt er enghraifft.
“Maen nhw wedi ymestyn y maes profi ers hynny, maen nhw’n dal tir mawr.
“Ac mae hyn rŵan yn dod ar ddechrau’r cyfnod gwyliau lle mae pobol am fynd allan a hwylio.
“Mae pobol yn defnyddio’r môr am bob math o bwrpasau, gan gynnwys pobol sydd ar wyliau, ac mae’n debygol y bydd hyn yn amharu arnyn nhw hefyd.
“Dw i heb gael unrhyw fath o ymgynghoriad ar hyn, a dw i ddim yn siŵr faint o ymgynghori a wnaethpwyd ar hyn.
“Fel arfer maen nhw jyst yn dweud beth maen nhw’n mynd i’w wneud.
“Mae o’r un fath efo awyrennau yn hedfan yn isel, y cyntaf ’dan ni’n clywed amdano fo fel arfer ydi pan mae yna bobol yn cwyno.
“Dw i wedi bod yn Aelod Seneddol ers 21 mlynedd, a dw i wedi bod yn cwyno am hyn ers 21 mlynedd.
“Mae o’n boen i bobol ac mae o’n digwydd drwy’r adeg, a dydy o ddim i weld fel petai o’n newid o ganlyniad i’n cwynion ni.
“Weithiau maen nhw’n gyrru negeseuon allan yn dweud eu bod nhw am fod yn cynnal ymarferion ac ati.
“Ond yn aml, dydyn ni ddim yn cael unrhyw fath o wybodaeth o flaen llaw, ac am wn i mae yna resymau milwrol am hynny.”