Mae Liz Saville Roberts yn galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i gymryd camau i leihau’r sŵn sy’n dod o awyrennau Texan hedfan yn isel dros Ysgol Botwnnog, yn dilyn cwynion cynyddol gan yr ysgol.

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wedi anfon llythyr ar ran Dylan Minnice, pennaeth yr ysgol, ynghylch gweithgarwch awyrennau milwrol yng nghyffiniau ysgolion yng Nghymru yn ystod cyfnod arholiadau TGAU a Safon Uwch.

Mae hi’n galw am sicrwydd y bydd camau’n cael eu cymryd i ddatrys y sefyllfa, ar ôl lansio ymgynghoriad cyhoeddus eisoes ar hedfan isel gan awyrennau milwrol yn ei hetholaeth.

“Deallwn bwysigrwydd ymarfer ar gyfer yr Awyrlu Frenhinol, yn enwedig gyda’r sefyllfa bresennol yn Ewrop,” meddai Dylan Minnice.

“Serch hynny, credwn nad ydym yn afresymol yn gofyn iddynt osgoi ymarfer o gwmpas yr ysgol am gyfnod o tua phedair awr y dydd am bedair wythnos tra mae disgyblion blynyddoedd 10 ac 11 yn sefyll eu harholiadau terfynol TGAU sydd am gael effaith ar eu dyfodol.”

‘Siomedig’

“Mae disgyblion lleol eisoes wedi dioddef nifer o flynyddoedd o amhariad i’w hastudiaethau oherwydd y pandemig Covid ac maent bellach yn wynebu aflonyddwch pellach i arholiadau hanfodol oherwydd gweithgaredd parhaus awyrennau milwrol,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae athrawon a disgyblion Ysgol Botwnnog wedi lleisio’u pryderon am yr aflonyddwch parhaus, ac mae’n siomedig nad yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi bod yn fwy parod i dderbyn eu pryderon.

“Er bod Gweinidog y Lluoedd Arfog yn haeru bod maint yr hyfforddiant wedi’i gyfyngu i’r hyn sy’n hanfodol, rwy’n bryderus na fydd hyn yn rhoi llawer o gysur i ddisgyblion sy’n profi aflonyddwch i arholiadau hollbwysig, yn ogystal â’u hathrawon gweithgar.

“Er fy mod wedi cael fy nghalonogi gan gyfarfodydd blaenorol gyda’r Awyrlu Brenhinol bod camau’n cael eu cymryd i osod offer yn yr awyrennau Texan i ganiatáu hedfan dros y môr, rwy’n parhau i fod yn bryderus iawn am yr effaith ar ardaloedd lleol.

“Ailadroddaf fod yn rhaid i’r Weinyddiaeth Amddiffyn fod yn ymwybodol o effaith y gweithrediadau hyn ar gymunedau lleol a gweithredu mesurau i liniaru aflonyddwch lle’n bosib.”

Hywel Williams yn trosglwyddo cwynion am awyrennau’n hedfan yn isel i’r Weinyddiaeth Amddiffyn

Adroddiadau bod awyrennau wedi hedfan dros ardal Caernarfon fore heddiw (dydd Gwener, Ebrill 22) ond dim awgrym fod yr hediadau wedi’u cynllunio