Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn “anghynaliadwy” ac yn dioddef yn sgil prinder staff, yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru.

Daw ei sylwadau wrth ymateb i adroddiad damniol Archwilio Cymru, sy’n rhybuddio bod ôl-groniad ar gyfer gofal wedi’i gynllunio yn un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd.

Dydy’r targedau ar gyfer amserau aros ddim wedi cael eu cyflawni ers nifer o flynyddoedd, meddai’r adroddiad, sy’n dweud bod yr ôl-groniad yn waeth ar hyn o bryd o ganlyniad i’r pandemig.

Fis Chwefror eleni, roedd bron i 700,000 o gleifion yn aros am ofal wedi’i gynllunio – sydd ddwywaith y nifer ar gyfer yr un mis ddwy flynedd yn ôl.

Dydy bron i hanner y bobol sy’n dal i aros ar hyn o bryd ddim wedi cael apwyntiad cyntaf fel cleifion allanol eto, sy’n golygu ei bod hi’n bosib iawn nad ydyn nhw wedi cael diagnosis ac nad oes modd blaenoriaethu eu gofal.

Tra bod arallgyfeirio cleifion i apwyntiad cyntaf fel cleifion allanol ar gynnydd ers sawl blwyddyn, fe gwympodd y nifer yn sylweddol ar ddechrau’r pandemig, a dydyn nhw ddim wedi dychwelyd i’w lefelau blaenorol o hyd.

Mae’n debyg fod 550,000 o arallgyfeiriadau ‘ar goll’ yn y system o hyd a phe bai angen triniaeth ar hanner y nifer yma o gleifion, fe fyddai’n cael effaith sylweddol ar restrau aros ac ar y perygl o niwed wrth i gleifion orfod aros am ofal.

Cafodd £12.77m o gyllid ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ym mis Mawrth eleni, gyda chapasiti staff, diffyg gofod a phrinder capasiti preifat ar gyfer gofal wedi’i gynllunio ymhlith y rhesymau dros ddychwelyd yr arian.

‘Rhwystredig’

“Mae gweld bod arian heb ei wario’n profi pa mor anghynaliadwy ac wedi’i staffio mor ddespret o annigonol ydi’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Heb y bobol gywir yn y lle cywir, all Llywodraeth Cymru Lafur ddim dechrau mynd i’r afael mewn modd effeithiol ag amserau aros sy’n record.

“Yr hyn sy’n rhwystredig ydi ein bod ni wedi bod yn dweud hyn ers blynyddoedd – ymhell cyn i ni glywed am Covid-19.

“Mae’r her rŵan yn dipyn mwy na mynd yn ôl at sut roedd pethau cyn y pandemig – mae angen rhoi ein Gwasanaeth Iechyd ar dir llawer mwy cadarn, ac mae angen cynllun mwy cynhwysfawr arnom sy’n mynd i’r afael â phob cam o daith cleifion drwy’r system, sy’n uno iechyd a gofal cymdeithasol, ac sydd yn canolbwyntio’n glir ar ataliad.”

 

Angen gweithredu i fynd i’r afael â rhestrau aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio

Rhybudd y gallai gymryd hyd at saith mlynedd i’r lefelau ostwng i’r hyn yr oedden nhw cyn y pandemig