Mae adroddiad sy’n rhybuddio y gallai gymryd hyd at saith mlynedd i restrau aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio ostwng i’w lefelau cyn Covid-19 yn “alwad i ddeffro” i Lywodraeth Cymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, sy’n galw am weithredu brys i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Mae’r ôl-groniad ar gyfer gofal wedi’i gynllunio yn un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd, yn ôl adroddiad gan Archwilio Cymru.
Dydy’r targedau ar gyfer amserau aros ddim wedi cael eu cyflawni ers nifer o flynyddoedd, meddai’r adroddiad, sy’n dweud bod yr ôl-groniad yn waeth ar hyn o bryd o ganlyniad i’r pandemig.
Fis Chwefror eleni, roedd bron i 700,000 o gleifion yn aros am ofal wedi’i gynllunio – sydd ddwywaith y nifer ar gyfer yr un mis ddwy flynedd yn ôl.
Dydy bron i hanner y bobol sy’n dal i aros ar hyn o bryd ddim wedi cael apwyntiad cyntaf fel cleifion allanol eto, sy’n golygu ei bod hi’n bosib iawn nad ydyn nhw wedi cael diagnosis ac nad oes modd blaenoriaethu eu gofal.
Tra bod arallgyfeirio cleifion i apwyntiad cyntaf fel cleifion allanol ar gynnydd ers sawl blwyddyn, fe gwympodd y nifer yn sylweddol ar ddechrau’r pandemig, a dydyn nhw ddim wedi dychwelyd i’w lefelau blaenorol o hyd.
Mae’n debyg fod 550,000 o arallgyfeiriadau ‘ar goll’ yn y system o hyd a phe bai angen triniaeth ar hanner y nifer yma o gleifion, fe fyddai’n cael effaith sylweddol ar restrau aros ac ar y perygl o niwed wrth i gleifion orfod aros am ofal.
Cyllid ychwanegol
Ar ddechrau’r pandemig, sicrhaodd Llywodraeth Cymru fod £200m ychwanegol ar gael yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22 i fynd i’r afael â’r ôl-groniad, ond doedd dim modd defnyddio’r swm cyfan.
Fe wnaethon nhw gais am £146m, ond cafodd £12.77m ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ym mis Mawrth eleni, gyda chapasiti staff, diffyg gofod a phrinder capasiti preifat ar gyfer gofal wedi’i gynllunio ymhlith y rhesymau dros ddychwelyd yr arian.
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth gynllun ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal wedi’i gynllunio a lleihau rhestrau aros, gan amlinellu targedau ar gyfer rhestrau aros rhwng 2022 a 2026.
Mae’r Llywodraeth hefyd wedi neilltuo £185m ychwanegol bob blwyddyn am bedair blynedd hyd at 2026 i weithredu eu cynllun cenedlathol.
Er gwaetha’r arian “hanfodol”, mae Archwilio Cymru’n rhybuddio na fydd yr arian yn unig yn ddigonol i fynd i’r afael â’r sefyllfa, a bod angen i’r Gwasanaeth Iechyd “oresgyn rhwystrau difrifol”, gan gynnwys effaith Covid-19 ar wasanaethau, effaith gofal brys ar ofal wedi’i gynllunio, a phrinder staff a phroblemau recriwtio.
Argymhellion
Mae adroddiad Archwilio Cymru’n gosod pump o argymhellion i’r Llywodraeth, sef:
- cydweithio â chyrff iechyd i osod targedau uchelgeisiol priodol i gyflwyno gwasanaethau
- creu strategaeth ariannu glir, gan gynnwys buddsoddiad cyfalaf tymor hir
- datblygu cynllun gweithlu i adeiladu a chynnal capasiti gofal wedi’i gynllunio
- cyflwyno trefniadau arweinyddiaeth systemau i weithredu’r cynllun
- sicrhau bod trefniadau’n canolbwyntio ar reoli peryglon clinigol sy’n ymwneud â rhestrau aros hir, cefnogi cleifion wrth iddyn nhw aros, a chyflwyno gofal mewn modd effeithlon ac effeithiol
Maen nhw hefyd wedi creu teclyn data sy’n rhoi gwybodaeth am restrau aros yn y byrddau iechyd gwahanol.
“Bydd y pandemig Covid-19 yn gadael y Gwasanaeth Iechyd â sawl gwaddol fydd yn para, nid lleiaf yr effaith sylweddol a gafodd ar amserau aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton.
“Fel y gwnaeth y Gwasanaeth Iechyd ateb her y pandemig, fe fydd yn rhaid iddo ateb yr her o fynd i’r afael â rhestr aros sydd wedi tyfu’n enfawr.
“Bydd angen gweithredu pendant mewn sawl ffordd, a bydd angen goresgyn nifer o heriau hirdymor.
“Mae arian ychwanegol wedi dod ar gael ac mae’n hanfodol ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol er mwyn sicrhau bod yna ddulliau ecwitïol wedi’u targedu sy’n diwallu anghenion gofal wedi’i gynllunio pobol Cymru.”
Adroddiad ddim yn “llenwi pobol Cymru â hyder”
“Fydd yr adroddiad hwn ddim yn llenwi pobol Cymru â’r hyder sydd ei angen arnyn nhw fod eu trethi’n cyflwyno deilliannau iechyd positif a bod ganddyn nhw wasanaeth iechyd sy’n gweithredu’n dda,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Does neb yn beio’r meddygon a’r nyrsys sy’n gweithio’n galed, ond mae’r cynllunio gwael gan Lywodraeth Cymru sy’n llenwi eu hamser wrth flaenoriaethu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd yn hytrach na datrys cyflwr cataclysmig rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd a chostau byw cynyddol.
“Gweinidog iechyd Llafur ddywedodd y byddai’n ffôl pe bai gan y Gwasanaeth Iechyd gynllun adfer cyn diwedd y pandemig.
“Dyma agwedd sy’n amlwg wedi bod yn hanfodol wrth arwain at fod un ym mhob pump o bobol ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd, gyda 70,000 ohonyn nhw’n aros mewn poen am dros ddwy flynedd.
“Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn alwad i ddeffro i’r Llywodraeth Lafur fwrw iddi a dangos arweiniad yn hytrach na gadael byrddau iechyd i wneud y gwaith caib a rhaw.
“Mae angen i Lafur fynd i’r afael â’r Gwasanaeth Iechyd a pheidio â thorri’r holl recordiau anghywir.”