Mae Cwmni Golwg yn lansio gwefan newydd Lingo360 heddiw (dydd Mawrth, Mai 31).

Fel rhan o rwydwaith golwg360, bydd y wefan newydd yma yn ehangu ar y ddarpariaeth sydd eisoes yn cael ei chynnig i ddysgwyr gan gwmni Golwg.

Gyda chylchgrawn Lingo Newydd eisioes wedi’i sefydlu fel adnodd pwysig i’r rheini sy’n dysgu Cymraeg ers sawl blwyddyn, ac adran Dysgu Cymraeg golwg360 wedi profi’n llwyddiannus yn fwy diweddar, bydd Lingo360 yn cymryd y cam nesaf wrth gynnig gofod ar-lein i ddarparu newyddion ac erthyglau yn benodol ar eu cyfer.

Mae cylchgrawn Lingo Newydd wedi bod yn hynod boblogaidd ac mi fydd y wefan newydd yn gyfle i gwmni Golwg ehangu ar y ddarpariaeth sy’n cael ei chynnig.

Gan fod y cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi bob deufis mae cyfle gyda’r wefan i wneud eitemau mwy cyfredol a fydd, gobeithio, o ddiddordeb i ddysgwyr ac yn eu helpu ar eu taith i ddysgu’r iaith.

Cylchgrawn ar gyfer dysgwyr, ac nid am ddysgwyr, yw Lingo Newydd, ond fe fydd y wefan yn gyfle i roi mwy o ffocws ar y rhai sy’n dysgu’r iaith ac adrodd eu straeon nhw.

Yn ogystal fe fydd llu o eitemau eraill a chwisiau lle bydd cyfle i bobol ymarfer eu hiaith.

Nid ar gyfer dysgwyr yn unig mae Lingo360 – fe fydd yn adnodd pwysig ar gyfer y rhai hynny sy’n dychwelyd at y Gymraeg ar ôl cyfnod heb ddefnyddio’r iaith efallai, neu rhai sydd ddim yn teimlo’n hyderus iawn yn darllen eitemau yn y Gymraeg.

‘Galw cynyddol am gynnwys i ddysgwyr’

“Mae hi’n amlwg ers tro bod galw cynyddol am gynnwys i ddysgwyr, ac felly rydym yn falch iawn o gyflwyno gwefan newydd Lingo360, a fydd yn rhan ganolog o ddarpariaeth y cwmni, yn enwedig ar benwythnosau,” meddai Alun Rhys Chivers, golygydd golwg360.

“Ein bwriad wrth gyflwyno gwefan Lingo360 yw helpu dysgwyr a siaradwyr Cymraeg llai hyderus ar eu taith tuag at ddod yn rhugl, gyda geirfa i’w helpu i ddarllen ‘Newyddion yr Wythnos’ ac amrywiaeth o erthyglau nodwedd.

“Gobeithio bod rhywbeth at ddant pawb.”

Ewch i https://lingo.360.cymru/ i gael cip ar y wefan newydd.