Mae gan Gymru obsesiwn efo perchnogi tai, yn ôl Mabon ap Gwynfor, sy’n dweud bod angen symud oddi wrth hynny.
Wrth siarad mewn sgwrs gyda chymdeithas dai Grŵp Cynefin yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, cyfeiriodd Mabon ap Gwynfor at gymunedau yn Awstria a’r Eidal lle mae canran helaeth o’r stoc dai yn dai cymdeithasol.
Does yna ddim cystadleuaeth rhwng twristiaeth a thai mewn ardaloedd fel Vienna a De Tyrol gan fod y diwydiant twristiaeth yn dibynnu ar westai yn hytrach nag AirBnB ac ail dai.
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, dylai Cymru drio symud tuag at drefn debyg.
“Mae yna obsesiwn efo prynu tai oherwydd ein bod ni’n meddwl bod perchnogi tŷ yn golygu bod gennym ni gyfalaf,” meddai Mabon ap Gwynfor wrth sgwrsio efo Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Cynefin, a Carys Edwards, cadeirydd Bwrdd Rheoli’r gymdeithas.
“Ond y gwir yw, mae gwerth tai yn cynyddu beth bynnag, felly dydy’r cyfalaf yna werth dim oni bai eich bod chi’n downsize-io.
“Dw i’n mynd i fynd ar daith dros yr haf i ddinas Vienna yn Awstria ac i ogledd yr Eidal. Yn yr ardaloedd hynny mae gan y cymdeithasau tai berchnogaeth anferthol ar y tai. Pobol dosbarth canol, dosbarth gweithiol, pobol lled gyfoethog sy’n byw yn y tai cymdeithasol yma.
“De Tyrol ydy un o’r ardaloedd cyfoethocaf yn Ewrop, yr unig lefydd cyfoethocach na De Tyrol ydy Monaco a hwyrach Llundain. Mae De Tyrol yn ddibynnol ar dwristiaeth, ardal y Dolomites, poblogaeth o tua 300,000 ac mae’r bobol yn cael cyflog uchel iawn.
“Does yna ddim cystadleuaeth yn Ne Tyrol rhwng twristiaeth a thai oherwydd does yna ddim ail dai yno. Mae 60% o’r tai sydd yno yn dai cymdeithasol, ac ym mhob cymuned yno mae gennych chi feddygfa, fferyllfa, optegydd, a swyddi, a gwestai – dyna le mae pobol sy’n mynd i’r ardal yn aros, dydyn nhw ddim yn mynd i AirBnB, dydyn nhw ddim yn defnyddio ail dai. Maen nhw’n defnyddio’r gwestai sy’n cyflogi pobol ar swyddi uchel, da.”
Cyfarch y galw
Yn Ne Tyrol, mae’r llywodraeth leol wedi buddsoddi ers dros 70 mlynedd mewn datblygu tai cymdeithasol sy’n cyfarch y galw cymunedol.
“Maen nhw’n sicrhau bod pobol, nid yn unig yn medru gweithio yn eu cymunedau, ond hefyd efo’r gwasanaethau a’r adnoddau yno er mwyn eu galluogi nhw i fyw yn y eu cymuned,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Oherwydd hynny, dydy pobol De Tirol ddim yn edrych i brynu tŷ a pherchnogi tŷ oherwydd maen nhw’n gwybod bod yna dai yno ar eu cyfer nhw, ac ar gyfer eu plant nhw a’u hwyrion nhw. Dyna le mae’n rhaid i ni anelu tuag ato.
“Hyd yma [yng Nghymru], mae gennym ni Lywodraeth, mewn cydweithrediad â ni yn y Blaid, sydd bellach yn buddsoddi chwarter miliwn o bunnoedd mewn tai cymdeithasol yng Nghymru – mwy nag erioed. Ond dydy hynny ddim yn agos at faint sydd ei angen i sicrhau tai ar gyfer galw ein cymunedau. Mae’n rhaid i ni weld hynny’n cynyddu.
“Fyswn i’n dweud hyn fel aelod o’r Blaid, ond os ydyn ni am gael rheolaeth ar hyn mae’n rhaid i ni gael rheolaeth fiscal ac economi Cymru er mwyn ein bod ni’n gallu pennu ar reoliadau economaidd Cymru a bod yr arian iawn yn cael ei roi tuag at dai.
“Os ydyn ni’n gwneud hynny, mae yna sawl math o broblemau eraill, boed yn iechyd, boed yn addysg, boed yn dlodi, mae’r rheiny hefyd yn cael eu datrys.”