Mae cyfreithwyr wedi herio penderfyniad Cyngor Sir Powys i roi caniatâd cynllunio i gais i ddyblu maint uned ieir ger Afon Gwy yn Llanelwedd.

Bydd grŵp Fish Legal, sy’n defnyddio’r gyfraith er mwyn mynd i’r afael â llygredd mewn dyfroedd, yn dechrau her gyfreithiol yn yr Uchel Lys yn sgil penderfyniad y cyngor i ganiatáu i’r uned gadw 180,000 o ieir yn hytrach na 90,000.

Yn ôl Fish Legal, dydy Cyngor Sir Powys heb asesu’r effaith fydd tunelli ychwanegol o faw ieir yn ei gael ar yr afon.

Wrth i faw ieir lifo i afon, mae mwy o algae’n tyfu gan ladd planhigion, sy’n effeithio ar bysgod ac adar yn eu tro.

Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau eu bod nhw’n bwriadu amddiffyn yr her, meddai Fish Legal.

Mae Afon Gwy yn Ardal Gadwraeth Arbennig gan ei bod hi’n cefnogi rhywogaethau megis y chwyn afon ranunculus, cimwch crafangau gwyn, lamprai’r môr, lamprai’r nant, gwangod, eog yr Atlantig a’r herlyn.

Fodd bynnag, dydy 60% o Afon Gwy a’i dalgylch ddim yn cwrdd â thargedau ar gyfer ffosffadau, sylwedd sy’n llygru’r afonydd drwy achosi i algae dyfu.

‘Cwymp ecolegol parhaus’

Dywed Justin Neal, cyfreithiwr gyda Fish Legal, fod Cyngor Sir Powys wedi dweud, yn y bôn, nad yw’r hyn sy’n digwydd i faw a gwastraff ieir sy’n cael gludo o’r unedau ieir yn sgil y datblygiad hwn yn berthnasol iddyn nhw.

“O ystyried mai’r bwriad yw ei ledaenu dros gaeau sydd ger isafon sy’n llifo i Afon Gwy, fe ddylen nhw fod wedi edrych ar yr effeithiau posib i’r afon yn sgil y llygredd.

“Er bod gennym ni rywfaint o gydymdeimlad â ffermwyr sydd eisiau amrywio neu gynyddu eu hallbwn, mae’n rhaid ystyried hyn o safbwynt cwymp ecolegol parhaus Afon Gwy, y tuedd parhaus o osod unedau o fewn dalgylch yr afon, a methiant cynllunwyr i ystyried risgiau llygredd yn iawn, a methiant Cyfoeth Naturiol Cymru i reoleiddio a darparu cyngor iawn i gynllunwyr.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru am ymateb.

Llygredd: ‘Yr hyn sy’n digwydd i Afon Gwy yn sgandal cenedlaethol’

Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn galw am fynd i’r afael â charthion yn afonydd Cymru