Mae RSPB Cymru wedi rhybuddio pobol y gall defnyddio jet skis yn anghyfrifol arwain at “ganlyniadau difrifol i fywyd gwyllt morol”.
Fe wnaeth Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu’r Gogledd dderbyn adroddiadau am bobol yn defnyddio jet skis mewn ffordd “anaddas” ger Ynys Seiriol, Ynys Môn dros y penwythnos.
Yn sgil hynny, maen nhw’n dweud bod rhaid i bobol sy’n mwynhau arfordir Cymru barchu’r côd morwrol a bywyd gwyllt y wlad.
Cafodd fideo yn dangos jet skis yn y môr ger Ynys Seiriol, sy’n Ardal Gadwraeth Arbennig, ei rhoi ar Twitter yn dweud bod nhw wedi “torri drwy adar môr”.
Yn ôl y neges, roedd yna o leiaf un wylog wedi marw yn y môr wedyn.
Wrth ymateb, dywed RSPB Cymru fod “rhaid i hyn stopio”, ac y dylid dweud wrth swyddogion bywyd gwyllt yr heddlu am ymddygiad peryglus.
https://twitter.com/RSPBCymru/status/1523590475680149507
‘Amharu ar gynefinoedd’
“Er ein bod ni’n croesawu ymwelwyr i ogledd Cymru, gall gweithgareddau ar yr arfordir amharu ar gynefinoedd a bywyd gwyllt gan gynnwys; gwrthdrawiadau, sŵn, ac amharu gweledol,” meddai Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu’r Gogledd.
Mae’r Heddlu yn galw ar bobol i ddilyn y cyngor canlynol:
Cadw pellter: Cadw pellter diogel (o leiaf 100 medr) oddi wrth glogwyni, adar môr sydd ar y dŵr ac anifeiliaid y môr, gan adael lle i anifeiliaid symud oddi wrthych.
Terfynau cyflymder: Dylai cerbydau ag injan a cherbydau personol deithio o fewn terfynau cyflymder o fewn 300 medr i’r lan neu i glogwyni.
Osgoi llefydd caëedig: Dylai unrhyw gerbyd gydag injan a heb injan osgoi mynd mewn i ogofau a theithio dan fwâu lle mae adar môr yn bridio neu forloi’n gorffwys.
Bod yn ymwybodol: Os yw ymddygiad anifail yn newid o ganlyniad i’ch presenoldeb, symudwch oddi yno yn dawel a sydyn.