Mae casgliad o blacardiau a gafodd eu defnyddio mewn protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys ledled Cymru ar arddangos yn Sain Ffagan erbyn hyn.

Cafodd y casgliad ei roi i Amgueddfa Werin Cymru yn dilyn cyfres o brotestiadau yn ystod haf 2020.

Fe wnaeth llofruddiaeth George Floyd ym Minneapolis ym mis Mai 2020 sbarduno protestiadau gwrth-hiliaeth dros y byd, gan gynnwys ralïau a gorymdeithiau dros Gymru, o Gaerdydd i Gaernarfon, ac o Aberystwyth i Abertawe.

Mae’r arddangosfa newydd yn oriel ‘Cymru’ hefyd yn cynnwys lluniau a hanesion gan ymgyrchwyr a fu’n rhan o’r protestiadau.

Dywed Sioned Hughes, Pennaeth Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru, fod angen sicrhau bod casglu deunydd cyfoes yn rhan bwysig o waith Amgueddfa Cymru, a hynny “er mwyn sicrhau bod y casgliad cenedlaethol yn cynrychioli profiadau amrywiol trigolion Cymru ddoe a heddiw”.

“Mae’n bwysig i arddangos y placardiau hyn yn oriel Cymru… er mwyn adrodd stori mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yng Nghymru a’i effaith ar gymunedau,” meddai.

Arddangos lluniau sy’n “dogfennu ymgyrch bwysig a hanesyddol” Bywydau Du o Bwys

Mae lluniau’r ffotograffydd Carwyn Rhys Jones ymysg gwaith 40 artist sy’n rhan o sioe Agored 2021 y Galeri