Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi annog pobol ifanc ledled Cymru i gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd.

Bwriad yr wythnos arbennig, sy’n dechrau heddiw (dydd Llun, Mawrth 7), yw cefnogi pobol ifanc wrth iddyn nhw adael addysg a pharatoi ar gyfer y byd gwaith.

Yn eu maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru yn 2021, fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig addo creu 150,000 o brentisiaethau a thorri ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr STEM ac ieithoedd tramor modern.

Roedden nhw hefyd yn awyddus i ad-dalu ffioedd dysgu i bobol sy’n mynd ymlaen i weithio fel doctoriaid, nyrsys, neu athrawon, fel rhan o gynlluniau i “sicrhau bod pobol ifanc yn ffynnu mewn byd gwaith ac addysg”.

‘Dyfodol y gweithlu’

Dywed Paul Davies, llefarydd economi’r blaid, ei bod hi’n bwysig bod cefnogaeth o’r fath ar gael i bobol ifanc sy’n mentro i wahanol yrfaoedd.

“Pobol ifanc yw dyfodol y gweithlu yng Nghymru,” meddai.

“Felly mae’n hanfodol ein bod ni’n darparu’r sgiliau maen nhw eu hangen a hyrwyddo cyfleoedd sydd ar gael i gydio ynddyn nhw.

“Mae Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd yn gyfle perffaith i sêr y dyfodol i ganfod mwy o wybodaeth, gan ddod â chyflogwyr, cynghorwyr a myfyrwyr ynghyd drwy ystod o weithgareddau a digwyddiadau.

“Gall gadael addysg a dechrau gweithio fod yn frawychus iawn felly byddwn yn annog cymaint o bobol â phosib i fod yn rhan o’r wythnos.

“Dylen ni fod yn gwneud popeth yr ydyn ni’n gallu i ostwng cyfraddau diweithdra, felly mae’n hanfodol bod gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd yn gwneud eu gorau glas i helpu pobol i fynd ar drywydd llwyddiant.”