Mae Awdurdodau Lleol Cymru’n derbyn mwy o gwynion nawr nag oedden nhw cyn Covid, yn ôl ystadegau newydd.

Derbyniodd yr Awdurdodau Lleol bron i 12,000 o gwynion yn ystod tri chwarter cyntaf 2021/22, meddai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae hynny’n gyfystyr â 5.1 o gwynion am bob 1,000 o drigolion Cymru.

Yn ôl yr Ombwdsmon, mae’r achosion yn eu harwain i gredu bod angen gwelliant pellach o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

Bu gostyngiad o 22% yn nifer y cwynion yn ystod y trydydd chwarter, ond yn ôl adroddiad gan yr Ombwdsmon, mae’r trydydd chwarter yn tueddu i fod yn dawelach, a gallai hynny fod yn gysylltiedig â’r Nadolig.

Cafodd ychydig dros 300 o gwynion eu hatgyfeirio at swyddfa’r Ombwdsmon yn nhrydydd chwarter y flwyddyn, sef tua 9% o’r holl gwynion.

Mae hynny’n golygu bod 9% o’r bobol yr ystyriwyd eu cwynion gan yr Awdurdod Lleol yn dal i fod eisiau parhau â’u cwyn, ac mae’r gyfran hon wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn.

Dydy’r cynnydd yng nghyfran yr atgyfeiriadau ddim “o reidrwydd yn duedd gadarnhaol”, meddai’r Ombwdsmon.

Er hynny, mae pobol yn fwy tebygol o gyfeirio cwynion at yr Ombwdsmon os ydyn nhw’n anhapus â’r canlyniad, meddai.

Yn ystod y trydydd chwarter, fe wnaeth yr Ombwdsmon ymyrryd yn 14% o’r achosion a gafodd eu hatgyfeirio atyn nhw.

Doedd ganddyn nhw ddim hawl i awdurdodi ar weddill y cwynion.

‘Llwythi achosion yn uchel’

“Mae’r cyhoeddiad data diweddaraf hwn yn dangos bod nifer y cwynion bellach yn uwch nag oedd cyn y pandemig a, gyda 9% o gwynion yn cael eu cyfeirio at ein swyddfa, mae’n dangos bod llwythi achosion yn uchel ym mhobman,” meddai Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

“Rydym wedi ymrwymo i sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy ymdrin â chwynion yn well – ac rydym bellach wedi darparu mwy na 200 o sesiynau hyfforddi i gyrff cyhoeddus yng Nghymru drwy ein Hawdurdod Safonau Cwynion.

“Y gobaith yw y bydd hyn yn golygu bod mwy o achwynwyr yn cael ymateb boddhaol i’w cwynion yn gynnar yn y broses.”

Ychwanega Matthew Harris, Pennaeth Safonau Cwynion, eu bod nhw’n edrych ymlaen at weld sut olwg fydd ar ddata’r flwyddyn lawn yn ddiweddarach eleni.

“Byddwn hefyd yn edrych ymlaen at ddod â rhannau eraill o Wasanaeth Cyhoeddus Cymru, megis Byrddau Iechyd a Chymdeithasau Tai, i’n cyhoeddiad data yn y dyfodol agos,” meddai.