Mae ysgol uwchradd yn Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu mynd i’r afael â her yr hinsawdd ac ymdrechu i ddod yr ysgol carbon niwtral gyntaf yng Nghymru.
Daw hyn ar ôl i’r Cyngor ymrwymo i fod yn awdurdod lleol sero-net erbyn 2030, a dod yn un o’r cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng hinsawdd.
Fel rhan o’u hymgyrch Prosiect Sero Sir Gâr, mae Ysgol Bro Dinefwr yn un o nifer o ysgolion sydd wedi derbyn buddsoddiad gan yr awdurdod lleol er mwyn bod yn fwy effeithlon o ran ynni.
Ond mae gwaith caled y disgyblion yn yr ysgol uwchradd yn Ffairfach ger Llandeilo wedi mynd â hynny gam ymhellach, ac fe fydd eu gweithredoedd yn sicrhau y bydd yr ysgol yn cyrraedd statws sero-net cyn neb arall.
Un o’r prosiectau hynny yw’r man dysgu awyr agored, sydd wedi rhoi cyfle i ddisgyblion blannu, thrin a chasglu ffrwythau a llysiau, fel bod modd eu defnyddio mewn prydau ysgol.
‘Angerddol iawn’
Dywed Ian Chriswick, pennaeth cynorthwyol yr ysgol, fod disgyblion wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr ymdrechion i fod yn garbon niwtral, ac wedi aberthu amser rhydd i gynnig help llaw yn y mannau awyr agored.
“Maen nhw wedi bod yn angerddol iawn am hyn ers y diwrnod cyntaf,” meddai.
“Mae’n amlwg bod gan y disgyblion bryderon am yr hyn sy’n digwydd i’r hinsawdd ac maen nhw’n teimlo eu bod nhw eisiau gwneud rhywbeth am y peth.
“Mae hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw wneud hynny.”
Mynd â’r achos i’r Senedd
Fe wnaeth y Cynghorydd Ann Davies ymweld â’r ysgol yn ddiweddar, a dywedodd bryd hynny fod ymroddiad a brwdfrydedd yr ysgol wedi creu argraff arni.
“Roedd yn bleser ymweld ag Ysgol Bro Dinefwr a siarad gyda’r disgyblion,” meddai.
“Buom yn siarad am eu pryderon ar gyfer y dyfodol, a pham eu bod yn teimlo bod angen iddynt weithredu nawr i helpu i wneud newid.
“Yn ogystal â’r pethau ymarferol maen nhw’n eu gwneud, fel casglu dŵr glaw, tyfu bwyd, a phlannu coed a blodau i ddenu bywyd gwyllt a gwrthbwyso allyriadau carbon, maen nhw’n siarad am y mater hefyd – nid yn unig yn yr ysgol, ond allan yn eu cymunedau ac maent hyd yn oed mynd â’r achos i Dŷ’r Senedd.
“Fel cyngor rydym wedi ymrwymo i daclo newid hinsawdd, yn wir ni oedd y cyntaf yng Nghymru i ddatgan ein bwriad i ddod yn garbon sero-net erbyn 2030.
“Golyga hyn fod yn rhaid i ni gael pawb i gymryd rhan, ac yn sicr cenedlaethau’r dyfodol y bydd newid yn yr hinsawdd yn cael yr effaith fwyaf arnynt.”