Mae Dr Rodolfo Piskorski, sy’n gyfrifol am greu gwefan Hir-iaith Hi-lite, wedi cyhoeddi teclyn newydd i’r wefan fydd yn galluogi dysgwyr i “symud i ffwrdd o gyfieithu, a meddwl yn Gymraeg”.

Dydy’r teclyn ddim yn barod i gael ei lansio eto, gan ei fod yn awyddus i gael adborth gan ddefnyddwyr cyn ei lansio “rywbryd yn yr wythnosau nesaf”.

Gellir defnyddio Hir-iaith Hi-lite i ddadansoddi geiriau ac ymadroddion, a bydd yn cynnig cyfieithiad ac yn egluro gwybodaeth ramadegol.

Mae hefyd yn helpu er mwyn deall ystyr geiriau unigol, yn ogystal â’r ffordd y maen nhw’n gweithio’n ramadegol mewn brawddegau, eu gwahanol ffurfiau a threigladau, a pham eu bod nhw’n newid.

Ond beth fydd y teclyn newydd yn ei ychwanegu at brofiadau dysgwyr sy’n defnyddio’r wefan?

“Mae’r teclyn newydd yn dod, ond dyw e ddim yn fyw eto,” meddai Dr Rodolfo Piskorski wrth golwg360.

“Bloc-iaith fydd yr enw arno, a’r syniad ydi eich bod chi’n adeiladu brawddegau yn Gymraeg a hynny ar sail rhywbeth rydych chi eisiau ei ddarllen.

“Felly bydd modd i chi lwytho tudalen Golwg er enghraifft, ac yna dewis ar ba frawddeg yr hoffech chi ddechrau.

“Bydd hwnnw wedyn yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg, ond gyda’r geiriau wedi’u cymysgu.

“Yna mae’n rhaid i chi geisio rhoi’r geiriau at ei gilydd er mwyn creu’r frawddeg wreiddiol yn Gymraeg.

“Felly bydd pob gair yn floc, dyna pam rydyn ni wedi ei alw’n Bloc-iaith, yna byddwch chi’n llusgo’r blociau hyn i greu’r frawddeg.

“Gallwch chi hefyd gael diffiniad o wahanol eiriau os ydych chi wir angen help.

“Ond y syniad yn y bôn yw ceisio ei droi mewn i ryw fath o gêm sy’n cyfrif faint o flociau rydych chi’n eu casglu.

“Er enghraifft, os ydych chi’n gorffen brawddeg gyda 30 o eiriau rydych chi wedi casglu 30 bloc.

“Byddwch chi’n gallu gweld faint o flociau rydych chi wedi’u casglu dros amser, ond hefyd sawl symudiad mae hi wedi cymryd i chi eu casglu.

“Wrth gwrs, os ydych chi’n defnyddio mwy o symudiadau byddwch yn cael llai o bwyntiau.

“Y gobaith wedyn yw bod pobol yn rhannu eu canlyniadau a gallu dweud: ‘Ylwch, dw i wedi darllen yr erthygl yma a dw i ddim ond wedi defnyddio hyn a hyn o symudiadau’.”

‘Meddwl yn Gymraeg’

Dywed Dr Rodolfo Piskorski ei fod yn gobeithio y bydd y gêm yn helpu dysgwyr i “symud i ffwrdd o gyfieithu, a meddwl yn Gymraeg”.

“Oherwydd pan mae dysgwyr yn mynd i wersi Cymraeg maen nhw yn Saesneg ac wedi’u seilio ar gyfieithu, ond weithiau mae hyn yn rhwystr oherwydd mae’n arwain pobol i feddwl bod yn rhaid i’r ferf ddod gyntaf er enghraifft,” meddai.

“Ond petai rhywun yn dechrau chwarae gyda hwn, byddan nhw’n dod i’r arfer â’r drefn Gymraeg yn haws.

“Dw i’n meddwl y bydd o’n declyn cynorthwyol iawn i ddysgwyr.”

Technoleg newydd i roi cymorth i ddysgu Cymraeg

Dr Rodolfo Piskorski, sy’n dysgu Portiwgaleg ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi datblygu’r dechnoleg

Mab Brasil, dinesydd Cymru

Portread o Rodolfo Piskorski