Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Abertawe i drafod diogelwch tân a sefyllfa lesddeiliaid sy’n wynebu costau er mwyn talu am welliannau.
Daeth diffygion mewn fflatiau i’r amlwg wedi trychineb Tŵr Grenfell yn 2017, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i dalu i ailgladio tai cymdeithasol, mae lesddeiliaid preifat yn wynebu biliau i dalu er mwyn gwneud gwelliannau.
Cafodd cyfarfod tebyg ei gynnal yng Nghaerdydd fis diwethaf, a bydd y drafodaeth ym Mae Abertawe ddydd Sadwrn (Chwefror 19) yn canolbwyntio ar y ffaith “bod lesddeiliaid yn gorfod talu am gamgymeriadau pobol eraill”.
‘Rhaid gweithredu’
Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, fydd yn cynnal y cyfarfod, ac mae hi wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddyn nhw gamu mewn a helpu lesddeiliaid “rŵan hyn”.
“Dw i’n gwerthfawrogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth newydd i lesddeiliaid er mwyn helpu’r nifer fechan o lesddeiliaid sy’n wynebu caledi ariannol sylweddol,” meddai Jane Dodds mewn llythyr at Lywodraeth Cymru.
“Fodd bynnag, hoffwn ofyn eto i Lywodraeth Cymru gamu mewn i helpu’r lesddeiliaid rŵan hyn.
“Dw i’n cytuno’n llwyr fod hwn yn gamgymeriad i ddatblygwyr wneud iawn amdano, ond mae’n rhaid gweithredu er mwyn gwneud yr adeiladau hyn yn ddiogel a lleihau’r pwysau ar lesddeiliaid.”
Mae Mark Drakeford wedi cwestiynu pa ysgogiad fyddai yno i ddatblygwyr newydd sicrhau bod eu hadeiladau nhw’n ddiogel petai’r pwrs cyhoeddus yn talu am y gwelliannau.
“Does gan lesddeiliaid unigol ddim mo’r gallu na’r pŵer i allu mynnu arian gan adeiladwyr – gallai Llywodraeth Cymru osod rhaglen er mwyn talu am waith adfer a mynd ar ôl arian gan ddatblygwyr, ac mae rhai datblygwyr mawr fel Redrow yn eu plith – fel dw i ar ddeall,” meddai Jane Dodds.
‘Sicrhau datrysiadau’
Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru roi eglurdeb i lesddeiliaid cyn gynted â phosib ynghylch diogelwch tân mewn fflatiau a’r drefn ar gyfer talu am welliannau.
Wrth ymateb i Gyllideb Llywodraeth Cymru, dywedodd y Pwyllgor Cyllid eu bod nhw’n croesawu’r arian ychwanegol sydd ynddi i gefnogi diogelwch adeiladau.
“Mae’r Pwyllgor o’r farn bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu sicrhau datrysiadau i lesddeiliaid a thenantiaid yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth am ddiogelwch eu hadeiladau,” meddai llefarydd.
“Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi atebion i lesddeiliaid a thenantiaid ynghylch sut y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio cyn gynted â phosibl i roi eglurder a sicrwydd iddynt.”
‘Parhau i ymgysylltu’
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw’n “credu’n gryf” na ddylai pobol sy’n byw yn yr adeiladau orfod talu am y gwaith o wneud gwelliannau i’r diffygion diogelwch tân.
“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â datblygwyr ac yn rhoi pwysau arnynt i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu, ynghyd â chymeradwyo datblygwyr sydd eisoes wedi neilltuo cyllid ar gyfer gwaith cyweirio yng Nghymru. Maent wedi gosod esiampl i eraill,” meddai llefarydd.