Mae undebau addysg wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd plant pump i 11 oed yng Nghymru’n cael cynnig brechlynnau Covid-19.

Yn ôl undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, mae ysgolion yn dal i ddioddef yn sgil Covid-19, gyda lefelau absenoldebau ymysg staff a disgyblion yn uchel.

Fe wnaeth Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, gyhoeddi ei bod hi’n dilyn argymhelliad y Cyd-bwyllgor ar Imiwnedd a Brechu (JVCI) i frechu plant rhwng pum ac 11 oed.

Dydy’r JCVI heb gyhoeddi’r argymhellion eto, a dydy Llywodraeth Cymru heb osod amserlen ar gyfer y rhaglen frechu chwaith.

Ond dywed Laura Doel, Cyfarwyddwr NAHT Cymru, eu bod nhw’n croesawu unrhyw fesurau lliniaru ychwanegol a allai helpu ysgolion.

“O ystyried bod ysgolion cynradd, yn enwedig, yn llefydd heb eu brechu ac o ystyried bod Omicron yn lledaenu’n haws, rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn aros ar agor,” meddai.

“Y bygythiad mwyaf i’n disgyblion yw colli allan ar addysg wyneb yn wyneb, felly mae’n rhaid i ni i gyd wneud ein rhan i helpu’r feirws rhag lledaenu.”

Brechu yw “y peth pwysicaf”

Dywedodd Eluned Morgan wrth Aelodau yn y Senedd na fydd y rhaglen hon yn cael ei gweithredu ar frys fel y rhaglen atgyfnerthu cyn y Nadolig.

“Byddwn yn annog pob teulu â phlant rhwng pump ac 11 oed, sydd ddim yn un o’r grwpiau risg clinigol, i fynd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am wybodaeth ynghylch y brechlyn a dechrau’r sgwrs am y cynnig,” meddai.

“Byddwn ni’n cyhoeddi diweddariad o’n Strategaeth Frechu’r wythnos nesaf, a fydd yn cynnwys manylion pellach am y cynnig, unwaith y bydd cyngor y JCVI wedi’i gyhoeddi.

“Brechu yw’r peth pwyicaf y gallwn ni ei wneud i amddiffyn ein hunain ac ein plant rhag salwch. Maen nhw’n arbed hyd at dair miliwn o farwolaethau dros y byd bob blwyddyn.

“Mae ysgolion dal i ddioddef yn sgil Covid, gyda lefelau uchel o absenoldebau staff a disgyblion ac mae unrhyw fesurau lliniaru ychwanegol i’w croesawu.”