Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Fforwm Llifogydd Cymru er mwyn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl.
Daw hyn ddwy flynedd ers i Storm Dennis daro ardaloedd yng Nghymru, yn enwedig cymoedd y de, gan achosi llifogydd.
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud ei fod yn agored i sgyrsiau pellach am sut i gefnogi cymunedau yn y dyfodol.
Daw hyn wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru rybuddio bod llifogydd yn dod yn “realiti newydd” i gymunedau gan fynnu bod angen mwy o weithredu i baratoi ar gyfer newid hinsawdd yn y dyfodol.
Mae cyfres o stormydd yn y gorffennol fel Ciara, Dennis a Jorge wedi cyfrannu at y glawiad mwyaf erioed a lefelau afonydd ledled Cymru yn codi.
Mae rhai o’r llifogydd a gafodd eu hachosi gan y rhain yn cael eu hystyried fel y rhai mwyaf arwyddocaol a dinistriol ers y 1970au, gyda 3,130 eiddo wedi’u heffeithio ledled y wlad.
‘Grymuso cymunedau’
Wrth siarad ar lawr y siambr, cyfeiriodd Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, at Fforwm Llifogydd Cenedlaethol Lloegr.
“[Mae] Fforwm Llifogydd Cenedlaethol—sefydliad yn Lloegr—wedi bodoli ers 2002 i sicrhau bod cymunedau ac unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso i leihau eu perygl o lifogydd. Dim ond yng Nghymru y mae wedi derbyn cyllid cymedrol,” meddai.
Ychwanegodd fod angen “sefydlu fforwm llifogydd i Gymru i rymuso cymunedau sydd mewn perygl yng Nghymru yn yr un modd”.
“Mae llawer o waith wedi’i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar lefel leol gyda chyllid a ddarparwyd gan y Llywodraeth yma yng Nghymru er mwyn helpu cymunedau lleol i deimlo’n fwy gwydn pan fydd y digwyddiadau hyn yn digwydd,” meddai.
“Mae gennym bwyllgor annibynnol yma yng Nghymru eisoes. Mae’n bwyllgor annibynnol sy’n cynrychioli cymunedau ledled Cymru ac sy’n ymgynghori â’r llywodraeth.”
Wrth ymateb i sylwadau’r Prif Weinidog fe ddywedodd Heledd Fychan y byddai fforwm cenedlaethol yn wahanol i bwyllgor annibynnol sydd eisoes yn cwrdd.
“Er iddo sôn bod pwyllgor annibynnol yn bodoli yma yng Nghymru, mae Fforwm Llifogydd Cymru yn wahanol gan y byddai yn gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau, gan ddarparu cymorth ar unwaith pan fydd llifogydd yn digwydd yn ogystal â sicrhau bod cymunedau ac unigolion yn teimlo wedi eu cefnogi a’u grymuso i leihau eu perygl o ddioddef llifogydd,” meddai.
“Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn parhau i ymgyrchu amdano, ond gyda glaw trwm a rhybuddion tywydd melyn unwaith eto ledled Cymru, mae angen y gefnogaeth hon ar gymunedau ar frys.
“Mae gormod o siarad wedi bod, a dim digon o weithredu. Mae llifogydd yn argyfwng cenedlaethol a dylid eu trin felly.”
Dwy flynedd yn nôl i heddiw, fe wnaeth llifogydd ddinistrio cymunedau ledled RhCT a thu hwnt.
Bu gormod o siarad, a dim digon o weithredu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae llifogydd yn argyfwng cenedlaethol a dylid ei drin felly. pic.twitter.com/DkDpwKbuFa
— Heledd Fychan AS/ MS (@Heledd_Plaid) February 16, 2022
‘Asiantaeth Lifogydd’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn dweud bod angen mwy o wariant gan Lywodraeth Cymru i amddiffyn y wlad rhag llifogydd, ac maen nhw hefyd yn galw am Asiantaeth Lifogydd i Gymru.
“Rydym ddwy flynedd ers Stormydd Ciara, Dennis a Jorge, ac mae sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael mwy o gyfrifoldeb heb unrhyw adlewyrchiad o’i gyllid, gan arwain at ddiffyg staff,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd Newid Hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig felly yn galw ar y Llywodraeth Lafur i weithredu Asiantaeth Lifogydd Cenedlaethol er mwyn gweithio gyda chymunedau lleol i gydlynu rheoli perygl llifogydd, ymateb i lifogydd a chynnal ymchwiliadau annibynnol i ddigwyddiadau llifogydd.”