Mae un o brif undebau addysg Cymru wedi cwestiynu’r cynlluniau i newid cymwysterau Cymraeg sydd wedi eu cyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Chwefror 16).
Bwriad y newidiadau gan gorff Cymwysterau Cymru yw sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn cael y gefnogaeth i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus wrth gwblhau cymwysterau penodol.
Yn dilyn adolygiad o’r cymwysterau presennol, mae tri phrif newid wedi eu hargymell ar gyfer lefel TGAU, a fydd yn cael eu gweithredu erbyn 2025.
Y prif newidiadau hynny yw:
- Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn cael eu cyfuno’n un TGAU ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog Cymraeg a Saesneg.
- TGAU Cymraeg Ail Iaith yn dod i ben, a bydd TGAU Cymraeg newydd ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg.
- Cymhwyster ychwanegol newydd i ddisgyblion mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg sy’n barod i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
Yn ôl undeb UCAC, dydyn nhw ddim yn meddwl bod y newidiadau sydd wedi eu cyhoeddi yn rhoi eglurder i athrawon
‘Nifer fawr o gwestiynau’
Mae Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC, yn cydnabod mai “dim ond penawdau sydd wedi’u rhyddhau heddiw”, ac y bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyhoeddi ar Fawrth 2.
“Yn y cyfamser, mae nifer fawr o gwestiynau o egwyddor, a chwestiynau ymarferol yn codi,” meddai.
“Ar gyfer pob pwnc a maes yn y cwricwlwm, yr egwyddor sylfaenol yw bod disgyblion yn gwella ac yn datblygu yn barhaus, heb lithro am yn ôl.”
Mae’r undeb yn dymuno cael sicrwydd ynglŷn â pha gymhwyster fyddai disgyblion sydd wedi cael addysg gynradd neu sy’n siarad Cymraeg ar yr aelwyd, ond sy’n mynychu ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg.
Yr opsiynau ar gyfer disgyblion lefel TGAU pe bai’r newidiadau’n cael eu cymeradwyo yw’r cymhwyster ‘Iaith a Llenyddiaeth’ cyfun, neu’r cymhwyster newydd sy’n cyfateb i Gymraeg Ail Iaith.
“Rhaid sefydlu’n gwbl glir a chadarn yr egwyddor, a’r trefniadau ymarferol, i sicrhau cynnydd parhaus, waeth pa ‘gategori’ o ysgol mae disgybl yn mynychu,” meddai Rebecca Williams wedyn.
Cyfuno iaith a llenyddiaeth
O ran y cynlluniau i gyfuno cymwysterau TGAU Cymraeg Iaith a TGAU Llenyddiaeth Gymraeg, mae UCAC yn pryderu am effaith hynny ar y cyfle i ddisgyblion astudio llenyddiaeth.
“Yn sicr, mi fydd rhaniad barn ymhlith y proffesiwn, gyda nifer yn teimlo’n gryf iawn nad yw hyn yn caniatáu rhoi’r gofod a’r statws priodol i Lenyddiaeth, er y gallai ehangu’r nifer sy’n ei astudio,” meddai Rebecca Williams.
“Mae’n codi cwestiwn arall, sef beth yn union fydd maint y cymhwyster Iaith a Llenyddiaeth. Mae hyn yn bwnc llosg mewn perthynas â TGAU Saesneg yn ogystal.”
Dywed Rebecca Williams fod yr undeb yn “deall anawsterau” cyflwyno un cymhwyster TGAU Cymraeg i bob disgybl ym mhob ysgol yng Nghymru, gan ddweud y byddai’n rhaid gwneud hynny “gam wrth gam”.
Er hynny, mae’r undeb yn awyddus i weld amserlen fanwl ar gyfer y datblygiadau hynny, “fel bod eglurder i bawb yn y system ynghylch cyfeiriad ac amserlen y daith, a’r newidiadau sydd angen eu gwneud i gyrraedd y pwynt unedig hwnnw.”
Penderfyniad “yn groes i alwadau ymgyrchwyr”
“Mae’r penderfyniad yma yn groes i alwadau ymgyrchwyr a’r dystiolaeth glir ers blynyddoedd lawr bod y system bresennol ddim yn caniatau mynediad cydradd i bawb i’r Gymraeg,” meddai Heledd Fychan, llefarydd plant a phobol ifanc Plaid Cymru.
“Mae’n codi cwestiynau mawr am rôl a diben Cymwysterau Cymru fel corff.
“Y perygl mawr yw mai yr hyn sy’n digwydd yw ail-frandio Cymraeg ail iaith, yn hytrach na’r cam mawr ymlaen sydd wir ei angen er mwyn cyrraedd targedau uchelgeisiol y Llywodraeth o greu miliwn, a mwy, o siaradwyr yr iaith.
“Mae bodolaeth y cymhwyster ail iaith a chreu un continwwm Iaith yn creu peryglon ynddo ei hun o ran diffyg dilyniant rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, yn enwedig mewn nifer o siroedd yng ngorllewin y wlad.
“Rydym yn awyddus i gydweithio ar draws y pleidiau er budd pobl Cymru a’u cymunedau, ond mae penderfyniad fel hyn gan gorff anetholedig yn tanseilio’r ymdrechion hynny.
“Er bod y penderfyniadau gan Gymwysterau Cymru yn deillio o broses a gychwynwyd cyn y Cytundeb Cydweithio, mae’n amlwg bydd rhaid newid y trywydd os oes modd i ni ddod i gytundeb trawsbleidiol ar gynnwys Bil Addysg Gymraeg.”