Mae pobol yn cael eu rhybuddio i aros dan do ddydd Gwener (Chwefror 18), a’r disgwyl yw y bydd gwyntoedd yn cyrraedd 100m.y.a.

Mae’r rhagolygon yn dangos y gallai Storm Eunice achosi i gyflenwadau trydan gael eu torri, niwed i gartrefi, a chael effaith ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Daw hyn wrth i’r Swyddfa Dywydd gyflwyno rhybudd oren oherwydd gwyntoedd cryfion, ynghyd â’r posibilrwydd o rybudd coch mewn rhai mannau.

Mae Sabrina Lee, cyflwynydd Newyddion BBC Wales, yn dweud bod y rhagolygon hyn yn “anghyffredin”, ac nad yw’n “ddiwrnod da i fentro allan”.

Yn y cyfamser, mae Storm Dudley wedi bod yn achosi gwynt a glaw trwm drwy gydol y dydd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 16).

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio bod potensial i “lawer” o rybuddion llifogydd gael eu cyhoeddi ar draws pob ardal arfordirol.

“Gallai gwyntoedd cryfion a ragwelir achosi ymchwydd storm a thonnau mawr a allai arwain at orlifo amddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyd yr arfordir,” meddai llefarydd.

“Rydym yn monitro’r sefyllfa’n agos iawn, ond rydym yn pryderu, os bydd y rhagolygon yn digwydd, ein bod yn debygol o weld effeithiau llifogydd sylweddol mewn sawl man ar hyd ein hardaloedd arfordirol.”

Rhybuddia y gallai cyflymderau gwynt hefyd achosi difrod ac mae’n awgrymu cadw llygad ar ragolygon y tywydd.

“Cadwch bellter diogel o lwybrau arfordirol a phromenadau gan y gall tonnau mawr eich ysgubo oddi ar eich traed neu fe allech gael eich taro gan falurion,” meddai.

Mae rhybudd melyn, “byddwch yn barod”, eisoes mewn grym o 1 o’r gloch heddiw (dydd Mercher, Chwefror 16), tan 6:00yb yfory (dydd Iau, Chwefror 17).

Mae hyn yn cynnwys rhannau o ogledd ddwyrain, gogledd orllewin a chanolbarth Cymru. Mae disgwyl i Storm Eunice effeithio ar Gymru gyfan o 3 o’r gloch y bore tan 9:00 nos Wener (Chwefror 18).

‘Diwrnod stormus iawn’

 

Mae Storm Dudley yn dod â gwyntoedd 70mya (110km/h) i bob rhan o Gymru o Geredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Powys a Wrecsam.

Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru hefyd 10 rhybudd llifogydd mewn grym yn ne, canolbarth a gogledd Cymru.

Mae Pont Hafren yr M48 wedi’i chau i’r ddau gyfeiriad, rhwng cyffordd 2 ar Ffordd Gyswllt Dyffryn Gwy yr A466 yng Nghas-gwent a chyffordd 1 ar yr A403 yn Aust, oherwydd y gwyntoedd cryfion.

Disgwyl gwyntoedd o hyd at 90m.y.a. yng Nghymru

Daw’r rhybudd gan y Swyddfa Dywydd yn sgil Storm Dudley
Llifogydd ger Trefforest

Galw am sefydlu Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i gefnogi cymunedau mewn perygl

Daw hyn ddwy flynedd yn union ers i storm Dennis daro 1,500 o gartrefi a busnesau ar draws cymoedd y de a rhannau eraill o Gymru