Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am wyntoedd cryfion o hyd at 90m.y.a. yng Nghymru.
Maen nhw wedi cyhoeddi rhybudd oren yng Nghymru a de-orllewin Lloegr o ganlyniad i Storm Dudley.
Mae disgwyl i Storm Eunice ddilyn Storm Dudley yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am y cyfnod stormus sydd i ddod.
Ond maen nhw’n dweud bod y fath dywydd yn “nodweddiadol o’r gaeaf yn y Deyrnas Unedig”.
Mae disgwyl i’r tywydd gwlyb a gwyntog bara tan ddiwedd yr wythnos a thros y penwythnos.
Mae rhwydweithiau ynni wedi rhybuddio am y perygl o golli cyflenwadau, ac o gadw draw o bolion trydan.