Mae Nick Ramsay, y cyn-Aelod Ceidwadol o’r Senedd, wedi ymuno â’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Bydd e’n sefyll dros ei blaid newydd yn etholiadau Cyngor Sir Fynwy ym mis Mai.

Fe adawodd y cyn-Aelod o’r Senedd dros Fynwy y Blaid Geidwadol wedi i’r berthynas â’i blaid ddod o dan straen gynyddol y llynedd.

Roedd e wedi bod yn cynrychioli’r blaid Geidwadol yn y Senedd ers 2007.

Fodd bynnag, daeth cyhoeddiad ar gychwyn mis Mawrth y llynedd na fyddai’n brwydro am sedd Mynwy yn y Senedd yn dilyn cyfarfod o gangen leol y Ceidwadwyr.

Roedd hynny yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau oedd wedi peri i’r berthynas rhwng y gwleidydd a’r blaid i dorri lawr.

Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth y gwleidydd dynnu’n ôl o’r cyfarfod i ddewis ymgeisydd yn dilyn penderfyniad i ailagor y broses, yn sgil deiseb gan aelodau lleol.

Aeth ati wedyn i fygwth cyfraith – er iddo gael ei rybuddio gan ei gyfreithwyr y gallai wynebu costau.

Daeth e â’r achos i ben yn ddiweddarach, a gorchmynnodd barnwr fod rhaid iddo dalu costau o £25,000.

Pleidleisiodd cyfarfod cyffredinol arbennig y blaid leol i beidio ag ailgadarnhau Nick Ramsay fel ymgeisydd, a Peter Fox, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, gafodd ei ddewis i gynrychioli’r Ceidwadwyr.

‘Gwleidyddiaeth Cymru a’r Deyrnas Unedig’

“Dw i wedi meddwl yn galed ac yn hir am ddyfodol gwleidyddiaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig,” meddai Nick Ramsay.

“Nid y blaid y gwnes i ymuno â hi rywdro yw’r Blaid Geidwadol erbyn hyn.

“Maen nhw wedi colli ymddiriedaeth y bobol, a dydyn nhw ddim yn gallu rheoli ein gwlad.

“Maen nhw wedi methu’r prawf cymhwysedd sylfaenol.

“Alla i ddim meddwl am lawer iawn dw i’n cytuno â nhw yn ei gylch.

“Dw i wedi treulio amser hir yn archwilio’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn cael bod eu gwerthoedd gwaelodol o degwch, cymuned a rhyng-genedlaetholdeb yn cyfateb i fy rhai i.

“Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yw’r ffordd orau o sicrhau neuadd bentref newydd i Raglan, i gefnogi busnesau lleol sy’n ei chael hi’n anodd, a datblygiad cynaladwy i Sir Fynwy, a dw i’n falch o gael ymuno â nhw yn eu hymgyrch i ddarparu dyfodol gwell i’n sir.”

Croesawu Nick Ramsay a’i “benderfyniad egwyddorol”

Mae Jo Watkins, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Sir Fynwy, wedi croesawu Nick Ramsay atyn nhw, ac wedi ei longyfarch ar “benderfyniad egwyddorol”.

“Dw i wrth fy modd o gael croesawu Nick atom,” meddai.

“Mae e’n dod â phrofiad o weithio ar gyfer Sir Fynwy well ar lefel genedlaethol a lleol.

“Mae e’n rhannu ein gwerthoedd a bydd e’n ychwanegiad gwych i’n tîm cryf wrth i ni wynebu’r her o adeiladu dyfodol gwyrddach, cefnogi ein busnesau lleol a chreu cymunedau cynaladwy yma yn Sir Fynwy.”

Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, hefyd wedi ei groesawu i’r blaid.

“Mae taith Nick yn adlewyrchu taith nifer o bleidleiswyr oed tosturiol y Ceidwadwyr ledled Cymru sydd wedi diflasu efo’r boblyddiaeth ddi-feddwl a gynrychiolir gan Boris Johnson, ac sy’n troi at y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer polisïau difrifol a chynlluniau a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r problemau yn eu bywydau,” meddai.

“O gostau ynni’n chwydd-droi i godi trethi’n annheg, mae’r Blaid Geidwadol wedi colli golwg yn llwyr ar yr hyn sydd o bwys i bobol bob dydd.”