Mae cynrychiolwyr o Fawrisiws yn teithio i Chagos i hawlio rheolaeth dros yr ynysoedd.

Mae Prydain hefyd yn ceisio hawlio rheolaeth drostyn nhw, tra bod yr ynysoedd hefyd yn gartref i safle milwrol Americanaidd.

Dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth Mawrisiws deithio i’r ynysoedd heb geisio caniatâd y Deyrnas Unedig, meddai’r prif weinidog Pravind Jugnauth, sy’n dweud bod hwn yn “gam cadarn” wrth “weithredu ei sofraniaeth a hawliau sofran mewn perthynas ag archipelago Chagos”.

Cafodd yr hawliau hynny eu hatgyfnerthu yn 2019 gan safbwynt y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, a ddywedodd fod Prydain wedi rhannu Mawrisiws mewn modd anghyfreithlon.

Roedd ynysoedd Chagos yn rhan o Fawrisiws cyn i Brydain eu gwahanu nhw ychydig flynyddoedd cyn i Fawrisiws ennill ei hannibyniaeth yn 1968.

Yn dilyn sylwadau’r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, fe wnaeth Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fynnu bod Prydain yn rhoi’r gorau i “weinyddu’n drefedigaethol” ar yr ynysoedd ac yn eu dychwelyd nhw i reolaeth Mawrisiws, ac fe gafodd y Cenhedloedd Unedig gefnogaeth y Pab Ffransis.

Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod ufuddhau, a does dim gorfodaeth gyfreithiol arnyn nhw i ddilyn y cyngor, gan ddadlau bod yr ynysoedd wedi bod dan eu sofraniaeth ers 1814 a bod eu presenoldeb nhw yno’n dal i fod yn bwysig yn strategol.

Sylwadau’r prif weinidog

Mewn datganiad, mae Pravind Jugnauth wedi tynnu sylw at ddyfarniad y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, gan ddweud bod y Deyrnas Unedig yn euog o “weithred anghywir” drwy barhau i fynnu rheolaeth dros ynysoedd Chagos.

Mae’r prif weinidog yn mynnu na fyddai dirwyn rheolaeth y Deyrnas Unedig o’r ynysoedd i ben yn cael effaith ar y safle milwrol Americanaidd yn Diego Garcia, gan ategu ymrwymiad Mawrisiws i gynnal y safle.

Fel rhan o gytundeb a ddaeth i rym yn 1966, mae gan yr Unol Daleithiau yr hawl i ddefnyddio’r safle yn Diego Garcia at ddibenion amddiffyn, ac mae awyrennau a llongau Americanaidd ar y safle.

Mae’r Unol Daleithiau’n cefnogi’r Deyrnas Unedig yn y ffrae gyfreithiol â Mawrisiws.

Fe wnaeth Prydain symud oddeutu 2,000 o bobol oddi ar ynysoedd Chagos yn y 1960au a’r 1970au fel bod modd i’r Unol Daleithiau godi’r safle milwrol, ac fe ddaeth nifer ohonyn nhw i’r Deyrnas Unedig gan frwydro yn y llysoedd i ddychwelyd adref.

Yn ôl Pravind Jugnauth yn 2019, mae’r digwyddiad yn “parhau’n bennod dywyll iawn yn hanes y ddynoliaeth” ac yn “gyfystyr â throsedd yn erbyn y ddynoliaeth”.

Y daith

Bydd llong sydd wedi’i chomisiynu gan Fawrisiws yn hwylio heddiw o’r Seychelles i Chagos.

Bydd y daith yn cymryd 15 niwrnod, ac fe fydd y llong yn cludo cynrychiolydd Mawrisiws y Cenhedloedd Unedig, ymgynghorwyr cyfreithiol ac ymchwilwyr gwyddonol sy’n bwriadu cwblhau gwaith yno.

Yn ôl Pravind Jugnauth, bydd modd manteisio ar y daith mewn gwrandawiad Tribiwnlys Cyfreithiau Morwrol Rhyngwladol a gafodd ei alw gan Fawrisiws.

Fydd y prif weinidog ddim yn mynd ar y daith, ond mae disgwyl iddo ymweld ag ynysoedd Chagos ar daith arall yn y dyfodol.