A hithau’n Wythnos Cydraddoldeb Hil (Chwefor 7-13), mae Cyngor Hil Cymru yn galw ar sefydliadau ac unigolion i ddangos nad ydyn nhw’n goddef unrhyw fath o hiliaeth.

Mae Dim Hiliaeth Cymru yn galw ar sefydliadau ac unigolion sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo tegwch a chytgord hiliol i ymuno â’u polisi dim goddefgarwch i hiliaeth yng Nghymru.

Wrth lofnodi’r polisi, mae’n golygu bod pobol a mudiadau’n cytuno i sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo gweithle a chymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal sy’n rhoi hawl i bob unigolyn yng Nghymru deimlo’n ddiogel, ac fel eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys.

Mae cymaint mwy y gallwn ei wneud i ddal ein hunain yn atebol, meddai Cyngor Hil Cymru, a nawr yw’r amser i weithredu.

“Mae hiliaeth yn bodoli bob dydd, ac yn anffodus mae hefyd yn bodoli yma yng Nghymru,” meddai Cyngor Hil Cymru.

“Mae cymaint mwy y gallwn ei wneud i ddal ein hunain a’n gilydd yn atebol, i gynnal y safonau uchaf o gynhwysiant, gwerthfawrogiad a dathliad amrywiaeth ledled Cymru.

“Rydym yn sefyll fel un. Rydyn ni’n dod at ein gilydd mewn undod a phwrpas; ac rydym yn dweud na wrth hiliaeth yn ei holl ffurfiau.”

‘Rhoi stop ar hiliaeth’

Dywed Nelly Adam, neu Queen Niche, sy’n arwain ar ymgyrch Dim Hiliaeth Cymru, fod pobol fel hi yn wynebu hiliaeth yn sgil y ffordd maen nhw’n edrych.

“Dw i’n dod o gefndir cymysg, dw i’n ddynes Fwslemaidd. Prydeinig, Affricanaidd, ac Asiaidd,” meddai’r siaradwr cyhoeddus ac ymgyrchydd gwrth-hiliaeth a gwrth-Islamoffobia, mewn fideo i hyrwyddo’r ymgyrch.

“Cymru yw fy nghartref, a dw i’n gweld fy hun fel rhan o’r gymuned Gymraeg.

“Dw i’n arwain ar ymgyrch Dim Hiliaeth Cymru Cyngor Hil Cymru.

“Weithiau mae pobol fel fi’n wynebu rhagfarn, troseddau casineb, cael ein cau allan, aflonyddu, camdriniaeth, hiliaeth a gwahaniaethu oherwydd fy mod i’n edrych yn wahanol, ond dw i’n Gymraeg a dw i’n falch fy mod i’n rhan o’r gymuned Gymraeg.

“Ni ddylai neb ofni cael eu hymosod.

“Felly dewch Gymru, gadewch i ni weithio gyda’n gilydd a rhoi stop ar hiliaeth yng Nghymru.

“Os ydych chi’n sefydliad neu’n unigolion, arwyddwch Bolisi Dim Goddefgarwch i Hiliaeth yng Nghymru gan Gyngor Hil Cymru heddiw.

“Gadewch i ni ddod at ein gilydd yn erbyn hiliaeth, a rhoi stop arno yn ein cenhedlaeth ni.”