Mae “rhestr hir” o fanteision wrth ailgyflwyno afancod i ddyfroedd Cymru, yn ôl y naturiaethwr Iolo Williams.
Yn ogystal â manteision amgylcheddol, mae’n bosib manteisio’n ariannol ar yr afanc drwy ddatblygu twristiaeth werdd, meddai wrth golwg360.
Ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal er mwyn casglu barn yn lleol ynghylch ailgyflwyno afancod dan reolaeth i Afon Dyfi ym Mhowys.
Roedd afancod i’w gweld yng Nghymru nes y Canol Oesoedd, ac mae Prosiect Afancod Cymru, sy’n cael ei drefnu gan yr Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru, am adfer natur ar Afon Dyfi drwy eu hailgyflwyno.
Ail-greu cynefinoedd
Yn ôl Iolo Williams, mae hi’n amserol iawn eu bod nhw’n dychwelyd nawr er bod tirlun a phoblogaeth Cymru wedi newid ers y Canol Oesoedd.
“Roedden nhw’n arfer bod yma, ac roedden nhw’n gyffredin iawn,” meddai Iolo Williams wrth golwg360.
“I ddechrau maen nhw’n mynd i ail-greu llawer o gynefinoedd rydyn ni wedi’u colli.
“Maen nhw’n mynd i helpu i hybu pob math o fywyd gwyllt y gwlypdiroedd, pethau fel amffibiaid, pethau fel planhigion y dyfroedd, adar y dyfroedd, mamaliaid y dyfroedd.
“Ar ben hynny, maen nhw’n mynd i fanteisio pysgod yr afon.
“Dw i ddim yn deall pam bod llawer o bysgotwyr yn erbyn hyn, achos un peth maen nhw wedi’i ddarganfod mae’r afanc yn ei wneud – mae’r argae mae’n ei adeiladu, ac mae’n rhaid i chi gofio nad ydy o’n argae mawr, mae pawb yn meddwl am argae’r afanc ar ôl gweld ffilmiau Western ond afanc yr America ydy hwnna, mae afanc Ewrop yn adeiladu argae llawer llai o faint.
“Mae’r argae mae o’n ei wneud yn actio fel rhyw fath o ffilter yn y dŵr i ddal y llaid a’r mwd yn ôl, wedyn o dan yr argae mae’r dŵr yn lannach o lawer ac mae hynny am helpu pysgod.
“Pan mae pysgod yn dodwy, mae yna gymaint o laid, particlau o fwd yn y dŵr, maen nhw’n gorchuddio’r graean lle mae’r wyau wedi cael eu dodwy ac mae hynny’n tynnu ocsigen allan ac yn lladd yr wyau.
“Felly mae o’n mynd i helpu pysgod, dydy o ddim yn mynd i amharu arnyn nhw.
“Peth arall maen nhw’n ei wneud yw creu meithrinfa i bysgod bychan, ifanc.”
Twristiaeth werdd
Ar ben hynny, byddai hi’n bosib manteisio ar yr afanc er mwyn datblygu twristiaeth werdd, yn ôl Iolo Williams.
“Mae yna ffarmwr yn yr Alban, y cyngor gafodd o gan yr undeb amaethyddol oedd saethu’r afancod oedd ar ei dir o. Wnaeth o ddim,” meddai.
“Fe wnaeth o aberthu ychydig o dir, ffensio ffwrdd ochr yr afon fel bod yr afancod yn cael llonydd.
“Fe wnaeth o wedyn adeiladu cuddfan ac adeiladu dan log cabin a rhoi’r rheiny allan fel llety a brecwast, ac mae o’n dweud bod o’n gwneud mwy o bres allan o hynny nag oedd o allan o ffermio’r darn o dir yna cynt.
“Mae’n rhaid i ni gofio bod hyn yn mynd i gynnig cyfle i bobol i gymryd mantais o’r afanc hefyd, a thrio gwneud pres allan ohono fo.”
‘Profiad’
Cafodd teulu o dri afanc o’r Alban eu rhyddhau i hwb ymwelwyr Cors Dyfi y llynedd, ac mae afancod wedi cael eu hailgyflwyno’n llwyddiannus i dros ugain o wledydd yn Ewrop.
“Mae’r profiad yna i gyd, 99 gwaith allan o gant does yna ddim problem,” meddai Iolo Williams.
“Mae pobol yn dweud ‘O fydd yna broblem’, ond lol botes maip ydy hynny. Does yna ddim problem fel arfer.
“Os oes yna, mae yna fesurau yn eu lle i sortio hynny allan, gwneud pethau fel chwalu’r dam, rhoi pibelli mewn i’r dam i wneud siŵr bod dŵr dal i lifo, bod o ddim yn gorlifo ar y ffermdir, neu drapio’r anifeiliaid a’u symud nhw.
“Neu os oes rhaid, mewn achosion eithafol gallan nhw saethu’r anifeiliaid.
“Pobol sy’n dweud ‘Fyddan nhw’n broblem’, wir i chdi, dydyn nhw ddim yn gwybod be ar y ddaear maen nhw’n siarad amdano fo.
“Pobol sy’n dweud ‘Dydyn ni ddim isio nhw’, pobol unllygeidiog iawn sy’n edrych ar bethau o’r ochr yna, mae’n rhaid iddyn nhw feddwl am yr holl gynefinoedd rydyn ni wedi’i golli a’r manteision a ddaw o hyn.”
Y prosiect
Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn archwilio ymarferoldeb ailgyflwyno afancod gwyllt i Gymru ers 2005, a pheilot pum mlynedd i fonitro effaith afancod gwyllt yng Nghymru fyddai’r cynllun i’w hailgyflwyno i Afon Dyfi.
Mae’r prosiect yn cynnal pedwar gweithdy ymgynghorol cychwynnol er mwyn rhannu mwy o wybodaeth am eu bwriad a chasglu adborth gan bobol leol ar hyn o bryd.
Bydd y pedwerydd gweithdy yn cael ei gynnal ar-lein ddydd Llun nesaf (Chwefror 14), ac mae’n bosib i bobol sy’n byw yn nalgylch Afon Dyfi gofrestru ar-lein.