Mae cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd yn dweud eu bod nhw’n siomedig nad yw tri chynghorydd bellach yn cefnogi rhoi diwrnod o wyliau cyhoeddus i staff Cyngor Gwynedd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Y tri sy’n gwrthwynebu yw John Pughe, cynghorydd Corris a Dinas Mawddwy; Angela Russell, cynghorydd Llanbedrog; a Siôn Jones, cynghorydd Llafur tros bentref Bethel.

Daw hyn er bod cynghorwyr wedi pleidleisio’n unfrydol tros y cynnig yn ystod cyfarfod ym mis Hydref.

Dywedodd Cabinet y Cyngor ar Ionawr 18 y bydden nhw’n cadarnhau cyfarwyddyd y Cyngor llawn, “gan arwain y ffordd, trwy Gymru, i sicrhau statws a phwysigrwydd cenedlaethol Dydd Gŵyl Dewi i staff y cyngor”.

Wrth fynegi ei siom, mae Elwyn Edwards, cynghorydd Llandderfel, wedi tynnu sylw at y diwrnod o wyliau ar gyfer y Jiwbilî Platinwm.

“Mewn blwyddyn lle mae gwyliau banc ychwanegol yn cael eu taflu atom blith draphlith i ddathlu Jiwbili Platinwm Brenhiniaeth Loegr, mae’n fy rhyfeddu nad yw’r tri chynghorydd yn dangos yr un gwrthwynebiad i’r dathliadau rheiny,” meddai.

“Yn groes i benderfyniad Llywodraeth San Steffan sy’n gwrthod datganoli’r grym i Gymru benderfynu ar ei wyliau banc cenedlaethol ei hun, penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd awdurdodi gŵyl y banc ychwanegol i’r staff, yn union fel y cawsant fandad gan y cynghorwyr i’w wneud.

“Dair wythnos yn unig cyn dydd ein nawddsant, mae’r tri chynghorydd yn cwestiynu’r penderfyniad – gan gofio nad oedd yr un ohonynt wedi gwrthwynebu’r cynnig o gwbl nôl ym mis Hydref.”

‘Buddsoddiad un tro’

Er ei fod yn cydnabod cost cynllun o’r fath, mae Elwyn Edwards yn dweud bod y cynghorwyr yn dangos “naïfrwydd llwyr”.

“Buddsoddiad un tro fyddai hwn i’r cyngor, buddsoddiad mewn gweithlu sydd wedi wynebu heriau fel nifer o sectorau dros gyfnod y pandemig,” meddai.

“Mae pobl yn anghofio bod rhai o staff y cynghorau sir wedi gweithio yn y rheng flaen, fel gofalwyr, gweithwyr sbwriel, ail gylchu ac ati i gadw’n gwasanaethau i fynd.

“Mae’n fuddsoddiad gwerthfawr i bocedi staff ac eraill sy’n gweithio o fewn y sir, felly’n arian fyddai’n aros yn lleol ac o fudd i’n cymunedau.

“Mae’n arian o gyllideb eleni sy’n gwbl annibynnol i gyllideb y flwyddyn nesaf (e.e. treth y cyngor).

“Mae safbwynt negyddol y cynghorwyr yma yn hynod siomedig i’r staff, i drigolion ac i ninnau fel gwleidyddion sy’n credu’n greiddiol mewn dathlu Cymreictod, diwylliant a hanes Cymru.

“Mae derbyn cefnogaeth gan sefydliadau ac unigolion yng Ngwynedd a ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf wedi dangos cryfder teimlad dros roi statws dyledus i’n nawddsant.

“Diolch i gynghorau sir, tref a chymuned am eu cefnogaeth a gobeithio’n wir y parheir y sgwrs gyhoeddus hon, er mwyn anfon neges glir i San Steffan bod Cymru yn awyddus i dorri ei chwys ei hun ar faterion o’r fath.”